6.12.13

Diogelu enwau lleoedd – Ieuan Wyn

Cyflwyniad gan y Prifardd Ieuan Wyn i Gynhadledd Enwau Lleoedd, Prosiect Llên Natur, ar Ddiogelu enwau lleoedd ym Mhlas Tan y Bwlch, 20 Tachwedd, 2010. Yn sgil y gynhadledd sefydlwyd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru … linc isod 

Diogelu enwau lleoedd

Pam diogelu enwau lleoedd? Beth sydd yna ynglŷn â nhw sy’n peri inni deimlo’u bod nhw’n bwysig ac yn werth eu cadw a’u gwarchod? Digon yw nodi bod ein gwreiddiad ni mewn llefydd, a’n hymuniaethiad ni â’r llefydd hynny, yn greiddiol i’n profiad ni fel bodau dynol. Mae llefydd, a’u henwau nhw o raid felly, yn llawn arwyddocâd i ni am amryfal resymau ni waeth pa ddiwylliant bynnag yr ydym yn ei etifeddu. Dyna sydd gan y bardd Waldo Williams yn ei gerdd Cwmwl Haf wrth gyfeirio at yr arferiad o arddel gwreiddiau trwy roi enw’r hen le ar dy.

     ‘Durham’, ‘Devonia’, ‘Allendale’ – dyna’u tai
     A’r un enw yw pob enw,
     Enw’r hen le a tharddle araf amser ...


O’n magu yn sŵn enwau llefydd ein cynefin ni, mi rydan ni’n eu hanwylo nhw, - yn enw tŷ, mynydd a phant, traeth a phorth, llwybr a chae, – enwau’r llefydd cyfagos hynny sy’n rhan o’n plentyndod ni. Dyma’r man cychwyn. Maen nhw’n dŵad yn rhan o’n hunaniaeth bersonol ni, ac yn dŵad yr un pryd yn rhan o’n hunaniaeth genedlaethol ni, yn rhan annatod o’n gwead ni, yn un o’r clymau diwylliannol sy’n ein gwneud ni’n Gymry. Yr enwau yma sydd yn gwneud y tir hwn, y rhan neilltuol hwn o ddaear y byd, yn fröydd ac yn wlad inni, yn gwneud y darn daear hwn yn Gymru. Fel yna yr ydym ni’n dod i nabod a charu bro a gwlad. Mae’r enwau ar bob bryn a dyffryn, craig a chlogwyn, llyn ac afon, cilfach a chwm yn arwyddion byw sy’n dangos yn glir yr hyn a alwyd gan yr athronydd Athro J.R.Jones yn “gydymdreiddiad iaith a thir Cymru”. Fel hyn y dywedodd y bardd Waldo Williams:

     Dyma’r mynyddoedd. Ni fedr ond un iaith eu codi
     A’u rhoi yn eu rhyddid yn erbyn wybren cân.
     Ni threiddiodd ond un i oludoedd eu tlodi
     Trwy freuddwyd oesoedd, gweledigaethau munudau mân...


Mae’r bardd yn dweud yr un peth â’r athronydd, - mai’r Gymraeg fel priod iaith Cymru sy’n gwir ddehongli daear ein gwlad:

     Tŷ teilwng i’w dehonglreg

Mae barddoniaeth yn gallu rhoi mynegiant effeithiol i’r ymlyniad cynhenid hwn wrth lefydd. Pwy na all deimlo hiraeth yr alltud am weld ei henfro unwaith eto, ac yntau’n enwi’r mynydd:

     Dim môr a dim myharen, - dim afon
             Dim mefus na mawnen;
       Aberthwn aur byrth y nen
       Am weld eira Moel Darren.

Mae enwau lleoedd yn deffro’n cyneddfau deallol ac emosiynol oherwydd eu bod yn rhan o’n cof personol ac yn rhan o’r cof cenedlaethol. Mae eu tarddiadau a’u hystyron yn ddiddorol ynddyn nhw eu hunain, ac yn ennyn chwilfrydedd parhaus, ond mae hanes y llefydd hyn, ac arwyddocâd yr hanes, yr un mor bwysig ac yn cael effaith arnom ni. Mae eu gwahanol gyd-destunau’n allweddol ac mae eu clywed yn ddigon:
     Pengwern, Penyberth, Capel Celyn, Tryweryn, Epynt. Beth am Langeitho, Talgarth, Dolwar Fach, Pantycelyn? Beth am Hengwrt, Heniarth, Peniarth, Hendregadredd? Beth am Lanfihangel Bachellaeth, Llanfihangel Genau’r Glyn, Llanfair Mathafarn Eithaf? A beth am Hendy-gwyn ar Daf, Aberffraw, Dinefwr, Mathrafal, Abergarthcelyn, Cilmeri, Sycharth, Glyndyfrdwy, Hyddgen, Bryn Glas, Pwll Melyn?
     Mae cyplysu enw cartref ac enw personol yn hen arferiad yn y gymdeithas amaethyddol: Richard Tanyfoel, Carys Hendre, Emrys Waun-hir, Idris Bryn Poeth, Sioned Blaen-nant, Elwyn Glan Môr Isaf. A beth am enwau rhai a ddaeth yn enwogion gwlad? Mae enwau lleoedd wedi hen lynu wrthynt: Pantycelyn, Ieuan Glan Geirionnydd, Twm o’r Nant, Tanymarian, Gwilym Hiraethog, Jac Glanygors, Guto’r Glyn, Dafydd Nanmor. Mae’n byd a’n bywyd ni’n llawn enwau lleoedd.
     Fel sy’n wir ym mhob diwylliant, mae yna enwau sy’n llawn cyfaredd i ni am mai Cymry ydym ni. Maen nhw’n meddu ar ryw swyn oherwydd natur y Gymraeg, - enwau sydd oherwydd eu rhythmau a’u delweddau yn gerddorol ac yn farddonol. “Yr enwau persain ar fan a lle”, chwedl T. H. Parry-Williams. Beth am y rhain? Llond dwrn yn unig o enwau hyfryd sy’n disgrifio mannau arbennig mewn un rhan o Eryri: Llyn y Gaseg Fraith, Nant y Gilfach Felen, Buarthau Braich y Prysgyll, Nant y Garreg Goch, Braich y Llyn-gwm, Gwastad Ffynnon Deg, Gwaun Cwys Mai, Clogwyn Drws y Neuadd, Carnedd y Filiast, Pen yr Helgi Du, Bwlch y Tri Marchog, Cwm yr Afon Goch, Pyllau’r Ewigod, Buarthau Merched Mafon, Castell y Geifr, Cwm Pant y Darren, Bwlch Eryl Farchog, Cwm y Bedol Arian, Castell y Gwynt, Pen Llithrig y Wrach, Crib y Grimog Lem, Perth yr Ewig, Clogwyn yr Heliwr, yr Ysgolion Duon a’r Bryniau Melynion. Ac enwau ffosydd hyd yn oed: Ffos y Rhufeiniaid, Ffos Hafoty Belyn, Ffos y Foelgraig, Ffos Pant yr Ychain. Rhaid gwarchod y cyfoeth rhyfeddol hwn fel rhan hanfodol o’n hetifeddiaeth.
     Meddyliwch am yr holl enwau sydd gennym ni i ddisgrifio tirwedd. Dyma nifer ohonyn nhw: cwm, dyffryn, glyn, pant, bwlch, dôl, nant, ceunant, ystrad, tywyn, tyno, morfa, twmpath, banc, carn, carnedd, twr, ponc, poncen, bryn, bryncyn, bre, tomen, cnwc, mynydd, moel, curn, curnos, clog, clogwyn, twll (hafn), craig, crug, crugen, crugyn, copa, ban, crib, cribin, cribell, llethr, llechwedd, ysgafell, garth, penrhyn, pentir, penfro, rhiw, gallt, tyle, y ro, trum, tu, tarren, cyfrwy, gobell, tyno, marian, pelan, twyn. Ac mae eraill, sy’n enwau rhannau o’r corff: pen, trwyn, cefn a chefnen, braich, bron, ael, crimog, esgair, garan.
     Roedd yr hen Gymry a roddodd yr enwau ar y lleoedd hyn, a’r cenedlaethau a’u holynodd am ganrifoedd, yn gwybod yn union beth oedd y gwahaniaeth rhwng marian a llechwedd, rhwng pelan a thwyn, rhwng clog a tharren, rhwng garth a chefn, rhwng ysgafell a braich, rhwng cribell a thrum, rhwng esgair a chrimog.
     Roedd gwybod y gwahaniaeth rhwng y rhain yn hanfodol oherwydd roedd adnabod y diffiniad manwl yn allweddol am y rheswm syml mai dyma’u byd nhw. Roedd rhaid bod yn fanwl gywir wrth ddisgrifio pob rhan o’r amgylchedd. Mae angen symbylu ymchwil i ystyron topograffaidd manwl y geiriau hyn. Dyma oedd cyfraniad arbennig y ddiweddar Margaret Gelling yn Saesneg, yr arbenigwraig ar enwau lleoedd yn Lloegr a fu’n gweithio i Gymdeithas Enwau Lleoedd Lloegr ac a ddaeth yn llywydd arni. Dyma un swyddogaeth hanfodol i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
     Mae’r angen am ddiogelu enwau lleoedd yn codi oherwydd bod yna dair proses niweidiol ar waith. Y broses gyntaf yw colli enwau am nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar fapiau; yr ail yw enwau Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau Saesneg; a’r drydedd yw disodli enwau Cymraeg gwreiddiol gan enwau Cymraeg sy’n gyfieithiadau o enwau Saesneg.
     Dewch i ni edrych ar y broses o golli enwau am nad ydyn nhw wedi eu cofnodi ar fapiau. Trwy ohebu efo swyddfa’r Arolwg Ordnans er 1983 cafwyd peth llwyddiant, ac mae’n rhaid cydnabod cyfraniad pobl fel Duncan Brown, Twm Elias, Clive James, Hywel Roberts, Aled Job a’r diweddar Geraint George, ynghyd â’r ddau gyfnodolyn Gwaith Maes a Dan Haul. Ac eto, mewn un ardal - y Carneddau a’r Glyderau - mae tua thrigain o enwau yn dal yn absennol o fapiau’r Arolwg Ordnans. Ac nid sôn am greigiau yr ydym ond mynyddoedd, bylchau, pantiau, clogwyni, llethrau a llwybrau: Dyma rai ohonyn nhw: Cwm Ocwm, Llwybr Cimwch a Llwybr Llechen Goch ar Dryfan, Y Foelgoch yn Nant y Benglog, Mynydd Moel wrth Gyrn Wigau, Bwlch y Brwyn, Afon Cwm Perfedd, Afon y Fron, Clogwyn Mawr, Llyn Coch, Llethrau Llwyd, Pant Brwynog, Pant y Pistyll. Mae hi’n rhestr hir.
     Yr ail broses yw enwau Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau Saesneg. Weithiau bydd yr enw Cymraeg a’r enw Saesneg efo’i gilydd ar fapiau fel yn achos Craig Cwrwgl uwchlaw’r Marchlyn. Mae enw Saesneg, Pillar of Elidir, wrth ei ymyl ar fap yr Arolwg Ordnans a does mo’i angen o gwbl. Cafodd y Foelgoch yn Nant y Benglog, rhwng Llyn Ogwen a Chapel Curig, ei galw’n Nameless Peak, a bu Nameless Cwm yn enw ar Gwm Cneifion, un o’r cymoedd crog yng ngheg Cwm Idwal. Aeth Coed Cerrig y Frân a’r Rhiwiau ym mhen uchaf Nant Ffrancon yn Mushroom Garden; aeth Llwybr Gwregys ar Dryfan yn Heather Terrace Path, ac aeth Pen-llyn yn Ogwen Cottage ers tro byd.
     Rai wythnosau’n ôl roedd hen lun wedi ei atgynhyrchu yn y Daily Post, - llun o hen borthladd Degannwy. Yn y disgrifiad o dan y llun, cyfeiriwyd at Deganwy Dock yn y blaendir, a Vardre yn y cefndir. Erbyn heddiw, mae’r porthladd wedi hen fynd, ac mae yna dai a gwesty newydd ar y lan. Yr enw ar y lle bellach ydi The Quay. Ond yr enw gwreiddiol ar y rhan yma o’r lan oedd Cored Maelgwn. Pysgodfa neb llai na’r brenin Maelgwn Gwynedd yn y chweched ganrif. A Vardre? Dyma faerdref llys cwmwd y Creuddyn, rhan o drefn llywodraeth leol y tywysogion.
     Dyma gyfeirio at fannau ar ddwylan afon Menai. Sylwais ar hysbyseb tŷ ar werth ym Miwmares yn ddiweddar. Er mwyn gwneud y tŷ yn fwy atyniadol crybwyllwyd ei fod yn agos at Fryars Bay. Dim sôn am Borth Llanfaes. A beth am Borth yr Esgob a Gored y Gút ar lan y Fenai ym Mangor? Water’s Edge yw enw’r lle ers tro. I ble’r aeth Y Borthwen, enw’r lanfa ym Môn gyferbyn â hen lanfa’r Garth ym Mangor? Ac enw hen dŷ’r cychwr, y Borthwen Bach? Gazelle yw’r enw ar y lanfa a’r adeilad ers tro. I ble’r aeth yr enw Penrhyn Safnes gyferbyn ag Aberogwen, - disgrifiad perffaith o’r penrhyn isel, main yn ymestyn ar dro i’r sianel? Gallows Point a gewch chi heddiw ar fap, mewn llyfr ac ar lafar gwlad. Ac i ble’r aeth y Cefn Gwyn rhwng Abercegin ac Aberogwen sy’n enghraifft o’r gair ‘cefn’ yn cyfateb i sandbank?
     Dyma ddod at y drydedd broses, sef disodli enwau Cymraeg gwreiddiol gan enwau Cymraeg newydd sy’n gyfieithiadau o enwau Saesneg. Mae’r cyfryngau, yn bapurau newydd, radio a theledu, yn hyrwyddo’r broses o achos eu bod yn defnyddio enwau
sydd wedi eu cofnodi gan gyrff eraill. Dyma rai enghreifftiau: Rhaeadr y Graig Llwyd yn troi yn Rhaeadr Conwy dan ddylanwad yr enw Saesneg Conwy Falls; Y Rhaeadr Fawr yn troi yn Rhaeadr Aber dan ddylanwad yr enw Aber Falls; Rhaeadr y Benglog yn troi yn Rhaeadr Ogwen dan ddylanwad yr enw Ogwen Falls; Llyn Celanedd yn Aberogwen yn troi yn Llyn Llanw dan ddylanwad yr enw Tidal Pool; Pen y Gogarth yn troi’r Gogarth Fawr dan ddylanwad yr enw Great Orme, a Thrwyn y Fuwch yn troi yn Gogarth Fach dan ddylanwad yr enw Little Orme; a’r Twll Du yng Nghwm Idwal yn troi yn Gegin Cythraul dan ddylanwad yr enw Devil’s Kitchen. Hen enghraifft yw Pont y Borth yn troi yn Pont Menai dan ddylanwad dau enw, yr enw swyddogol Saesneg ar y bont, The Menai Suspension Bridge, a’r enw Saesneg ar Borthaethwy, Menai Bridge. Pont Menai sydd gan Dewi Wyn hyd yn oed, yn ei englynion enwog i’r bont pan godwyd hi yn 1826.
     Sut mae diogelu enwau lleoedd? Rwy’n gwbl argyhoeddedig y dylid rhoi enwau lleoedd a’u hystyron yn rhan o raglenni astudiaeth cwricwlwm hanes, daearyddiaeth ac iaith yn yr ysgolion. Dyma’r man cychwyn. Dysgu’r plant a’r bobl ifanc i werthfawrogi eu cyfoeth. Yn ail, sicrhau bod swyddfa’r Arolwg Ordnans yn cynnwys enwau lleoedd sydd heb fod ar eu mapiau ar hyn o bryd ond a ddylai fod arnyn nhw. Yn drydydd, sicrhau bod cronfeydd data'r cynghorau yn gyflawn ac yn gywir ac yn defnyddio ffurfiau Cymraeg yn unig, a’i bod hi’n ofynnol i gyrff eraill ddefnyddio’r ffurfiau hynny gan gynnwys cwmnïau sy’n cynhyrchu mapiau ffyrdd ar gyfer cyhoeddiadau a gwefannau. Yn bedwerydd, pan fo datblygiad newydd, mae hi’n hanfodol bod y cynghorau’n mynd ati i holi am enwau’r llecynnau hynny. Yn bumed, dylid cyfyngu’r enwau Saesneg sydd ar ddringfeydd i lyfrau dringwyr yn unig fel nad ydyn nhw ddim yn tresmasu mewn meysydd eraill ac yn disodli enwau Cymraeg, a dylid galw ar Gyngor Mynydda Prydain i ailedrych ar y modd y maen nhw’n enwi dringfeydd newydd. Yn chweched, cymell cynghorau sir a chymuned a chymdeithasau lleol i hyrwyddo prosiectau cofnodi enwau caeau, llwybrau a lonydd ledled Cymru. Yn seithfed, symbylu ymchwil i ddyfnhau ein dealltwriaeth o darddiadau ac ystyron enwau lleoedd. Dyma raglen go lawn i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.
     Mi rof y gair olaf i Gerallt Lloyd Owen:

     Cawsom wlad i’w chadw,
     darn o dir yn dyst
     ein bod wedi mynnu byw.


     Cawsom genedl o genhedlaeth
     i genhedlaeth, ac anadlu
     ein hanes ni ein hunain.


     A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
     Oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
     A’i grym anniddig ar y mynyddoedd.

Ieuan Wyn 


Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Naturiaethwr, Rhif 27, Ionawr 2011

Linc i Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru …

http://www.cymdeithasenwaulleoeddcymru.org/


No comments:

Post a Comment