12.12.13

Viewranger – yr ap mapio gorau

Fel mynyddwr brwd ers 40 mlynedd (a rhagor) ac yn cael dileit mewn cyfeiriannu a darllen mapiau fe ddechreuais ddefnyddio teclynnau GPS tua diwedd y 90au.

Dwi hefyd wastad wedi bod yn berson 'gadgets', ac wedi tipyn o ymchwilio a gwaith cartref dyma benderfynu ar Garmin 12, yn costio £160 (arian mawr yr adeg hynny) o Dickie's ym Mangor, yn declyn sylweddol o ran maint a gwneuthuriad, wedi ei bweru gan 4 batri AA (toeddan nhw ddim yn para'n hir iawn!). O'i droi ymlaen, fel arfer fe gymerai funudau lawer i ddarganfod y lloerenni ar y sgrin unlliw LCD. O'i gymharu hefo'r teclynnau soffistigedig sydd ar gael heddiw roedd yn sylfaenol iawn ond eto'n hawdd i'w ddefnyddio, yn solat ac yn dal dwr.

Dwi'n cofio unwaith treulio noson gyfan yn mewnbynnu i'r Garmin gyfeirnodau grid 20 copa i daith hir ar y Berwyn ym 2000 heb sylweddoli drannoeth mod i heb newid llythrennau grid fy sgwâr grid 100km lleol, SH, i lythrennau SJ ardal y Berwyn, ac er bod ffigyrau'r cyfeirnod yn gywir roedd y pob dim 100 cilomedr allan ohoni! Ta waeth, roedd yn ddefnyddiol tros ben i ddarganfod yn union ble'r oeddwn, a chan fod y map ar y sgrin fechan yn un sal iawn roedd yn rhaid cario a dibynnu ar fap papur

Fe'i gwerthais am £48 sawl blwyddyn yn ôl – roedd yn edrych fel newydd gan ei fod yn declyn mor solat, tipyn gwahanol i declynnau simsan heddiw.

Yn y cyfamser roedd nifer o gwmnïau yn datblygu meddalwedd mapio digidol y gellid eu defnyddio ar gyfrifiaduron, ar declynnau GPS neu ar ffonau symudol. Bu bron i mi brynu teclyn GPS Satmap, ond roedd yn fawr, yn ddrud ac yn declyn arall i'w gario hefo chi ar y mynydd. Darllenais am Viewranger fel app mapio i'w roi ar ffôn symudol a gweld Nokia 5800 ffôn ar werth yn ail-law hefo meddalwedd Viewranger a nifer o fapiau OS arno. Cyn prynu, cysylltais a'r cwmni i sicrhau perchnogaeth y mapiau ac os fyddai'n bosib trosglwyddo'r mapiau os byddwn yn diweddaru unrhyw galedwedd newydd yn y dyfodol. Atebwyd fy holl ymholiadau gyda throad yr ebyst - un ai gan Mike Brocklehurst neu Craig Wareham, sylfaenwyr y cwmni.

Roedd y mapiau ar y ffôn yn cynnwys Prydain gyfan ar raddfa o 1:50,000 gydag ychydig ardaloedd ar raddfa o 1:25,000. Ychwanegais fap o Barc Cenedlaethol Eryri ar raddfa  1:25,000 (£58, ond yn hanner y pris erbyn heddiw) a llawrlwythais sawl teilsen unigol o ardaloedd dieithr eraill. Roedd y meddalwedd yn gweithio'n hwylus iawn, yn cael ei ddiweddaru'n aml, a roedd y ffon ar gael yn fy mhoced. Fodd bynnag, roedd y Nokia'n cambyhafio'n aml ac yn 2011 fe brynais iPhone 3GS 16gb ac wedi rhywfaint o gyngor technegol gan Viewranger ar sut i drosglwyddo'r ffeiliau, abracadabra, fe ymddangosodd yr holl fapiau ar yr iPhone.


Mae'r ffôn Afal yn fwy sythweledol ac yn haws i'w ddefnyddio ond y broblem fwyaf oedd oes y batris! Ar ddiwrnod hir allan ar y mynydd, heb fatris sbâr, byddai'r ffôn wedi marw erbyn canol y prynhawn. Prynais declyn Powermonkey fel dyfais batri wrth gefn, ond roedd braidd yn drafferthus i'w ddefnyddio. Yn y cyfamser, roedd Viewranger yn gwella a diweddaru eu meddalwedd yn rheolaidd, ac erbyn heddiw gellir defnyddio'r ffôn i edrych ar y map, dilyn llwybr, neu i lawrlwytho mapiau ychwanegol (os oes signal) a threulio diwrnod llawn ar y mynydd heb boeni dim am y batris.

Gallwch ddefnyddio Viewranger ar 4 teclyn gwahanol ar yr un pryd. Pan yn Ysgrifennydd Gweithgareddau Clwb Mynydda Cymru defnyddiwn Viewranger i ddarganfod cyfeirnod grid man cychwyn ein teithiau – ar yr iPad y cwbwl roedd raid i rywun ei wneud oedd rhoi croes y cyrchwr tros y lleoliad ar y map a darllen y cyfeirnod! Gartref gallwch edrych ar fapiau ar yr iPad, ond tydwi heb ei ddefnyddio allan ar y mynydd! Tybed a fyddai iPad Mini mewn cwdyn plastic sy'n dal dwr a chyswllt 3G yn declyn delfrydol ar fynydd – ond gyda map papur yn nhop y sach rhag ofn! Sgwn i faint o effaith y mae'r teclynnau newydd yma wedi gael ar werthiant mapiau'r OS a Harvey, ac hefyd ydi cerddwyr o'r newydd yn gwybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd – neu a ydynt yn or-ddibynnol ar eu ffôns (neu eu prat-nav) i'w hachub pan ant i drybini?  

Mae llawer o dimau Achub Mynydd ledled Mhrydain yn defnyddio Viewranger ac yn defnyddio'r nodwedd Buddy Beacon i gadw llygaid ar union leoliad aelodau o'r tim pan maent allan ar y mynydd.

Bu Chris Townsend, sy'n gerddwr 'proffesiynnol', yn defnyddio Viewranger ar un o'r tabledi llai yn y maes yn ddiweddar, gweler y linc isod …

Ar wefan Viewranger (Rhagfyr 2013) gellir prynu map o Brydain gyfan ar raddfa o 1:25,000 am £250, mae mapiau unigol o'r Parciau Cenedlaethol ar gael am oddeutu £20 neu fwy, neu gellir prynu tocyn credyd i lawrlwytho teils unigol. Gellir eu defnyddio ar declynnau iPhone, Android a Symbian … ond nid ar ffonau Windows.

Dyma linc i'w gwefan … http://www.viewranger.com/en-gb

No comments:

Post a Comment