20.9.13

Hedd Wyn … Trasiedi Gymreig yn Fflandrys

Allan o lyfryn a gyhoeddwyd (mewn tair iaith – Fflemaidd, Cymraeg a Saesneg) ym mis Gorffennaf 1992 pan ddadorchuddiwyd llechen goffa i Hedd Wyn ar groesffordd Hagebos yn Langemark, Fflandrys.


Mae bardd Cymreig enwog drwy ei wlad wedi'i gladdu ym Mynwent Artillery Wood, Boezinge, yn ymyl Ieper (Ypres). Fe fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn Fflandrys, ar 31 Gorffennaf 1917, ar ddechrau Trydydd Brwydr Ypres. Chwe wythnos yn ddiweddarach, yn dilyn ei farwolaeth, fe enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwnaethpwyd y Gadair a oedd ar ei gyfer gan wr o Fflandrys a ffôdd ar ôl i'r rhyfel dorri allan. Y bardd oedd Hedd Wyn.
     Ganwyd Hedd Wyn ar 13 Ionawr 1997 ym Mhen-lan, ty ynghanol pentref Trawsfynydd, Gogledd Cymru. Ei enw bedydd oedd Ellis Humphrey Evans. Ef oedd plentyn hynaf o unarddeg o blant a anwyd i Evan a Mary Evans. Pedwar mis ar ôl ei enedigaeth, fe symudodd y teulu i'r fferm "Yr Ysgwrn", ychydig o filltiroedd i'r dwyrain o'r pentref.
     Cymraeg yw iaith poblogaeth gwasgaredig Meirionnydd, ardal frodorol Hedd Wyn. Ym 1901, roedd 94% o'r 49,000 trigolion yn siarad Cymraeg. Mae gwybodaeth o'r iaith Geltaidd hon wedi dirywio llai yn yr ardal yma nag mewn unrhyw ardal arall. Ym 1981, roedd 71% o'r trigolion (o'r cyfanswm o 32,000) yn siarad Cymraeg, tra disgynnodd y canran o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan o 50% (o gyfanswm o 2 filiwn) ym 1901 i 19% (o gyfanswm o 2.9 miliwn) ym 1981.

Bardd
Coronir gwlad fynyddig hardd Meirionnydd, a roddodd yr awen i waith Hedd Wyn, gan Yr Wyddfa, 1,085 m o uchder. Tua troad y ganrif, enillai y rhan fwyaf o drigolion Trawsfynydd eu bywoliaeth o amaethyddiaeth er i rai weithio yn y chwareli llechi ym Mlaenau Ffestiniog.
     Yn yr ysgol, nid oedd Hedd Wyn ymysg y rhai mwyaf disglair ond, roedd yn dda mewn barddoniaeth. Nid oedd hyn mor anarferol gan fod pobl gyffredin Cymru yn fwy dawnus ym myd barddoniaeth, ar gyfartaledd, na phobl gyffredin Fflandrys. Tra mai diddordeb y deallusion gorau yw celfyddyd barddoniaeth yn Fflandrys, mae barddoniaeth Cymru wedi'i gwreiddio yn ei phobl. 
     Cynhaliwyd yr eisteddfodau cynharaf yn y ddeuddegfed ganrif. Mae gan lawer o drefi ac ardaloedd eu heisteddfodau eu hunain. Achlysur mwyaf y flwyddyn yw'r Eisteddfod Genedlaethol, a gaiff ei chynnal yng Ngogledd a De Cymru, bob yn ail. Yn ystod y ganrif hon, mae'r achlysur wedi tyfu'n wyl o ddiwylliant hynod o amrywiol yn cynnwys cystadleuthau rhyddiaith, theatr, traethodau, cerddoriaeth, dawnsio gwerin, crefftau, ffotograffiaeth, ac yn y blaen. Fe aiff yr wyl ymlaen am wythnos ac mae'n denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
     Prif atyniad pob eisteddfod yw'r cadeirio'r Bardd buddugol. Rhoddir Cadair wedi'i cherfio'n gain i'r enillydd. Cadair sy'n symbol o'r safle anrhydeddus a feddianwyd gan feirdd y llysoedd, nesaf i dywysogion Cymreig y Canol Oesoedd.
     Ysgrifennodd Hedd Wyn ei gerddi cyntaf pan oedd yn unarddeg oed. Gadawodd yr ysgol yn bedair mlwydd ar ddeg a chymerwyd ef yn fugail ar fferm ei rieni. Fodd bynnag, fe aeth yn rheolaidd i'r Ysgol Sul yn y pentref ac yno bu Dyfnallt, un o arloeswyr y blaid genedlaethol, Plaid Cymru, yn annog ei ddawn farddonol.
     Bu Hedd Wyn yn cymryd rhan mewn eisteddfodau er pan yn bedair mlwydd ar bymtheg. Enillodd ei gadair gyntaf ym Mala ym 1907 gydag awdl o'r enw "Y Dyffryn". Ym 1908, fe fu'n gweithio am rhai misoedd mewn pwll glo yn Ne Cymru ond ni ddenwyd ef gan fywyd y glöwr ac felly dychwelodd i Drawsfynydd.
     Derbyniodd ei lysenw mewn cyfarfod o feirdd ym 1910. Dyfeiswyd yr enw gan y bardd Bryfdir ac fe gyfeirir at belydrau'r haul yn treiddio tarth dyffrynnoedd Meirionnydd.
     Natur a chrefydd oedd prif ddylanwadau gwaith Hedd Wyn. Lluniodd ei hun ar Shelley hefyd, y bardd Seisnig. Fel Shelley, gelwir Hedd Wyn weithiau yn "fardd y gwynt". Ym 1913, enillodd y Gadair yn eisteddfodau Pwllheli (awdl "Canolddydd") a Llanuwchllyn (pryddest "Fy Nghwynfa Goll"). Dwy flynedd yn ddiweddarach, roedd yn fuddugol ym Mhontardawe (pryddest "Cyfrinach Duw") a Llanuwchllyn (pryddest "Myfi Yw").
     Ym 1915, ysgrifennodd ei gerdd gyntaf ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mangor, sef awdl i "Eryri". Yn y flwyddyn ganlynol, fe ddaeth yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth gydag awdl i "Ystrad Fflur".

"Cofia Wlad Belg"
Penderfynnodd Hedd Wyn geisio unwaith eto am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 a oedd i'w chynnal ym Mhenbedw ar ddiwedd yr haf. O fis Hydref 1916 ymlaen, gweithiodd ar ei awdl: cerdd hir (tua 500 o linellau) ar y pwnc gosod "Yr Arwr". Derbyniodd Hedd Wyn ei awen oddiwrth y chwedl Roegaidd "Prometheus" gan ei chysylltu â symboliaeth Cristnogol.
     Erbyn hyn, roedd y rhyfel yn ei hanterth. A phan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol yn nechrau 1916, ni danseilwyd cymeradwyaeth enfawr y cyhoedd Cymreig a oedd yn cynnwys cylchoedd y deallusion. Dim ond ychydig o ddealltwriaeth a fodolai tuag at y llond dwrn o ddeallusion, sosialwyr radical ac awduron a wrthododd y rhyfel. Cydymdeimlai Cymru â gwledydd bychain. Estynwyd yn awr i wlad Belg ac i bobloedd y "Balkans" y cydymdeimlad a brofwyd tuag at y "Boers" yn eu rhyfeloedd yn erbyn y Saeson tua troad y ganrif.
     Tra'n weinidog yn y Llywodraeth Brydeinig pan dorrodd y rhyfel allan, a Phrif Weinidog o 1916 ymlaen, fe fanteisiodd Lloyd George yn fawr ar y ffaith ei fod yn Gymro i alw ar Gymru i aberthu eu hun. Fe ymatebodd Cymru – daeth gyrroedd o wirfoddolwyr Cymreig ymlaen ac, drwy apêl at eu cenedlaetholdeb, ffurfiwyd, hyd yn oed, unedau Cymreig arwahân.
     Brwydrodd 280,000 o Gymry yn y rhyfel, h.y. bron 14% o'r boblogaeth, llawer mwy, ar gyfartaledd, na frwydrodd o Loegr ac o'r Alban.
     Fe adawodd y rhyfel ei ddylanwad ar waith Hedd Wyn. Derbyniodd Trawsfynydd newyddion o'r ffrynt o un marwolaeth ar ôl y llall. Fe ysgrifennodd Hedd Wyn amryw i gerdd i'w gyd-bentrefwyr yn eu dioddefaint a'u colledion. Mae "Plant Trawsfynydd", "Y Blotyn Du", "Nid a'n Ango" ac yn arbennig "Rhyfel" ymysg y gorau o'i gerddi. Mae llawer o Gymry, hyd heddiw, yn medru eu hadrodd air am air. Cafodd ei ddisgrifio gan feirniad fel "bardd o addewid sy'n cyfansoddi penillion mor hawdd ag anadlu. Pe llwyddai i osgoi bwledi'r Almaenwyr, cawn glywed mwy ohono."

Yn y fyddin
Fe wynebwyd y teulu Evans gyda dewis anodd ym 1916 – rhaid oedd i un o'r meibion ymuno â'r fyddin. Er mwyn arbed ei frawd ieuengaf, Bob, fe ymunodd Hedd Wyn. Atebodd Hedd Wyn, a oedd yn ddibriod ond gyda chariad, i'r galw i'r fyddin, yn Chwefror 1917. Derbyniodd ei hyfforddiant yn Litherland, gwersyll ger Lerpwl. Ni giliodd yr awen. Pan roddodd y llywodraeth yr hawl i feibion ffermwyr ddychwel i gynorthwyo gyda'r aredig, fe dderbyniodd saith wythnos o ganiatâd. Cysegrodd Hedd Wyn y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn ar ei awdl ar gyfer yr Eisteddfod.
     Fe benodwyd Hedd Wyn i'r 15fed Bataliwn o'r Royal Welch Fusiliers. Ar 9 Mehefin 1917, ymunoff a'i uned yn Fléchin. Digalonnodd pan gyrhaeddodd Ffrainc. Ysgrifennodd at ffrind: "Tywydd trymaidd, enaid trymaidd a chalon drymaidd. Dyma drindod anghysurus onid e?" Ond gwelodd yr harddwch hefyd: "Ni welais erioed wlad mor dlos er gwaethaf felltith a ddisgynodd arni." Yn Fléchin, gorffennodd Hedd Wyn ei awdl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i danfonwyd yn y post ar 15 Gorffennaf 1917 wedi'i harwyddo "Fleur-de-lis".
     Yr un diwrnod, fe symudodd ei fataliwn tuag at y dwyrain. Aethont heibio Steenbecque (16 Gorffennaf), Saint-Sylvestre-Cappel (17 Gorffennaf), Proven (18 Gorffennaf) a Saint-Sixtus (19 Gorffennaf) ac, ar 20 Gorffennaf, cyrraeddont Dublin Camp, ger camlas Ijer-Ieperlee. Yno, arhosont am orchymynion ynglyn â'r ymosodiad nesaf oddiwrth yr uchel gadlywydd Prydeinig, ymosodiad a gofnodwyd mewn hanes fel Trydydd Brwydr Ypres.

Gwaedd y bechgyn
Ar 31 Gorffennaf 1917 am 3.50 a.m., dechreuodd yr ymosodiad. Yn fuan, dan law trwm, trawsffurfiwyd maes y frwydr yn lyn o fwd. Cymerwyd Pilkem gan y 15fed Bataliwn ac yna aeth ymlaen tuag at Iron Cross (Hagebos). Cawsont eu dal dan danio trwm yr Almaenwyr yn Battery Copse ac fe darawyd Hedd Wyn yn ei frest. Mae sawl gwahanol adroddiad o'r hyn a ddigwyddodd wedyn. Y mwyaf tebyg yw i Hedd Wyn gael ei hebrwng gan bedwar cymar i'r orsaf driniaeth feddygol yn Corner House. Yno, fe gadarnhaodd meddyg mai dim ond ychydig o obaith oedd ganddo i fyw, er nad iddo golli ei ymwybyddiaeth. "A ydych yn meddwl y caf fyw?" gofynnodd i'r meddyg. Er gwaethaf ei gyflwr peryglus, gwenodd Hedd Wyn. "'Rwyt ti i weld yn hapus iawn", sylwodd milwr. "Ydw, 'rydw i'n hapus iawn", atebodd. Dyna oedd ei eiriau olaf. Bu farw Hedd Wyn tua 11 a.m.
     Fe fu farw cymaint a 31,000 o filwyr y diwrnod hwnnw. "A gwaedd y bechgyn lond y gwynt / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw" – dyna sut orffennodd Hedd Wyn y gerdd "Rhyfel", gweledigaeth, fel petae o'i farwolaeth ei hun.
     Nododd y prif gadlywydd Prydeinig, Maeslywydd Douglas Haig, yn fras yn ei ddyddiadur am 31 Gorffennaf: "Diwrnod gwych o waith."

Y Gadair Ddu
Roedd miloedd o Gymry ym Mhenbedw ar 6 Medi 1917 i weld cadeirio'r bardd buddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Y diwrnod hwnnw, y Prif Weinidog Prydeinig, David Lloyd George, Cymro Cymraeg a bleidiodd yn frwdfrydig dros hunan-lywodraeth i Gymru pan yn wleidydd ifanc, oedd Llywydd y Dydd.    
     Cynyddodd y cynwrf tra bu'r gynulleidfa yn disgwyl i weld pwy fyddai'r bardd a fyddai'n cael ei ddethol i gymryd y Gadair.  Darllenwyd canlyniadau'r tri beirniad ac yna, datganwyd mai'r enillydd oedd yr awdl a anfonwyd yn dwyn y llysenw "Fleur-de-lis". Wedi hyn, gofynnodd yr Archdderwydd i'r bardd buddugol sefyll ar ei draed ar sain y cyrn gwlad i'w gyfeiriad ef. 
     Seiniwyd y cyrn gwlad i bob cyfeiriad ond ni safodd neb ar ei draed. Ar ôl teimladau o syndod, daeth digalondid mawr dros y gynulleidfa pan ddatganwyd fod yr enillydd wedi marw chwe wythnos yn gynharach. 
     Gorchuddiwyd y Gadair wag mewn du. "Yr wyl yn ei dagrau a'r Bardd yn ei fedd", ysgrifennodd yr Archdderwydd Dyfed. 
     Gwnaethpwyd y Gadair a oedd ar gyfer Hedd Wyn gan wr o Flandrys, Eugeen Vanfleteren (1880-1950), saer coed o Mechelen. Roedd Eugeen wedi ffoi i Loegr ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi ymgartrefu ym Mhenbedw ger y ffin â Chymru.
     Daethpwyd a'r Gadair i Drawsfynydd ar ôl yr Eisteddfod. Fe'i cludwyd hi i fferm y teulu "Yr Ysgwrn" mewn trol a cheffyl wedi'i gorchuddio mewn du. Datblygodd y fferm yn fan pererindod i bobl Cymru ers hynny. Tyrrodd nifer fawr o bobl mewn chwilfrydedd i ymweld â'r ystafell fyw, ble ceir y Gadair ynghyd â chadeiriau a thlysau eraill a enillwyd gan Hedd Wyn mewn eisteddfodau lleol. Nid amgueddfa mo'r fferm – mae dau nai i Hedd Wyn, Gerald ac Ellis Williams, yn byw yno o hyd. 
     Man gorffwys olaf Hedd Wyn yw mynwent Artillery Wood, Boezinge. Ym 1923, rhoddwyd cyfle i berthnasau'r Prydeinwyr a fu farw i eirio darn bychan neu epitaff i osod ar y bedd. Dewisodd tad Hedd Wyn y geiriau "Y Prifardd Hedd Wyn". Cyd-ddigwyddiad od, ond claddwyd bardd arall ym Mynwent Artillery Wood, y Gwyddel Francis Edward Ledwidge (1887-1917), a fu farw yr un diwrnod.

Nid â'n ango
Ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol ym Medi 1917, daeth Hedd Wyn yn draddodiad. Fe ysgrifenwyd galarnadau iddo gan ugeiniau o feirdd. Yr un mwyaf enwog yng Nghymru yw'r un gan R. Williams Parry, sy'n dechrau fel hyn … "Y bardd trwm dan bridd tramor …" Cyhoeddwyd casgliad o waith Hedd Wyn ym 1918 yn dwyn y teitl "Cerddi'r Bugail". Ym 1923, dadorchuddiwyd cofeb yn portreadu Hedd Wyn fel bugail yn ei bentref brodorol. Ni chafodd ei ddarlunio fel milwr, yn fwriadol, i osgoi unryw orfoledd o ryfel. Trefnwyd nifer o bererindodau i'w fedd ac, ym 1934, cynhaliwyd seremoni nodweddiadol ble, yn ôl un newyddiadurwr "daeth tor fechan o werinwyr Belgaidd ynghyd ac iddynt ymgrymu mewn parch heb ddeall dim o'r iaith". 
     Mae'r diddordeb yn Hedd Wyn yn parhau'n ddi-osteg. Ym 1969, cyhoeddwyd cofiant gan William Morris. Ym 1989, ysgrifennodd Alan Llwyd ac Elwyn Edwards lyfr o'r enw "Gwaedd y Bechgyn" am farddoniaeth Cymraeg a'r Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoddwyd cryn sylw ynddo, yn naturiol, i Hedd Wyn. Ym 1991, cyhoeddwyd cofiant manwl iawn gan Alan Llwyd yn dwyn y teitl "Gwae fi fy Myw". Ysgrifennodd sgript i ffilm "Hedd Wyn" (1992), yn ogystal, wedi'i chyfarfwyddo gan Paul Turner. 
     Nid yw Hedd Wyn yn anghof yn Fflandrys ychwaith. Ar 31 Gorffennaf 1992, ar ddathliad 75 mlynedd o'i farwolaeth, dadorchuddiwyd llechen goffa ar groesffordd Hagebos yn Langemarck, ac fe gynhaliwyd arddangosfa yn y Lakenhallen yn Ypres. 
     Bardd rhyfel yw Hedd Wyn, ond llawer mwy hefyd. Daeth yn ddolen gyswllt rhwng pobl Fflandrys a phobl Cymru, dwy genedl fechan a ddymunai ddiogelu eu diwylliant mewn Ewrop sy'n symud yn araf at undod ac sydd a'u gobaith ar hedd wyn …

Rhyfel

Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,

A Duw ar drai ar orwel pell,
O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng
Yn codi ei awdurdod hell.

Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd,
Mae swn yr ymladd ar ein clyw
A'i gysgod ar fythynod tlawd.

Mae'r hen delynau genid gynt
Yng nghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt
A'u gwaed yn gymysg hefo'r glaw.

Hedd Wyn


Ffynnonellau:
EDWARDS Elwyn, LLWYD Alan, "Gwaedd y Bechgyn", Barddas, s.1., 1989, 228 t.
JONES Derwyn, "Rhai sylwadau ar farddoniaeth Hedd Wyn", gan WILLIAMS J. E. Caerwyn (gol.), Ysgrifau Beirniadol (VI), 1971, t 197-231.
LLOYD Tecwyn,"Welsh Public Opinion and the First World War", Planet 10, t 25-37.
LLOYD Tecwyn,"Welsh Literature and the First World War", Planet 11, t 17-23.
LLWYD Alan, Gwae fi fy Myw – Cofiant Hedd Wyn", Barddas, s.1., 1991, 437 t.
MORRIS William, "Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn", Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1931, 136 t.
MORRIS William, "Hedd Wyn", Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon, 1969, 125 t.
PHILLIPS Bethan, "A fine day's work – Bethan Phillips on the death of Hedd Wyn", planet 72, Rhagfyr 1988 / Ionawr 1989, t 59-64.
ROBERTS Tomos, "Mwy trist na thristwch … Penodau yn hanes Hedd Wyn", Barddas 128-129, Rhagfyr 1987 / Ionawr 1988.
WILLIAMS J. J., "Cerddi'r Bugail – Cyfrol Goffa Hedd Wyn", William Lewis, Caerdydd, 1918, 159 t.

Cydnabyddiaeth:
Llun ar glawr y llyfryn: E. Meirion Roberts.
Cyfeithiad i'r Gymraeg: Heulwen James.
Cyngor: Alan Llwyd.

No comments:

Post a Comment