25.9.13

Y diweddar Mr Samuel Roberts

Erthygl allan o'r Cyfaill Egwysig, Gorffennaf 1916


Mae Eglwys Sant Thomas ym mhlwyf Llandwrog, Caernarfon, yn gruddfan dan y loes o golli hen gymeriad hynod a diddan ar lawer cyfrif. Cofia y lliaws offeiriaid ac eraill sydd o dro i dro wedi ymweliad â'r plwyf am yr hen wr pedwar ugain oed ac uchod oedd mor selog yn y gwasanaethau, mor gynnar ar y ffordd i Dy yr Arglwydd, ac mor ddefosiynol yn y gwasanaethau. Nid les gennym yr arwydd lleiaf i organmol na gorliwio cymeriad yr hen gyfaill Samuel Roberts: fel pawb arall ceid ynddo yntau ei ddiffygion a'i golliadau, ond nid bid sicr ceid ynddo hefyd ragoriaethau a rhinweddau, a rhai y byddai yn dda i'r wlad yn gyffredinol eu meddiannu.

Tipyn yn anllythrennog ydoedd, ac oherwydd hynny nid ydoedd yn weithiwr mawr gyda'r achos da. Ei sêl oedd coron ei fywyd a'i gymeriad. Diau fod gan amgylchiadau boreu oes rywbeth i'w wneud â'r diffyg uchod. "Bachgen o'r dre' – hen dref Caernarfon – ydoedd, wedi ei fagu ar lan y môr, a'i fryd ar fod yn forwr. Bu raid iddo, fel llawer un arall, ddianc heb ganiatâd ei fam ar ei daith gyntaf ar yr eigion, a digwyddodd hynny pan nad oedd ond hogyn bychan yn yr ysgol. Yr oedd bechgyn yn myned allan i weithio yn gynnar iawn y dwthwn hwnnw, ac nid oedd swyddog gorfodol na chyfraith i orfodi myned i'r ysgol. Dioddefodd oddiwrth hyn trwy gydol ei oes, a mynych y cyfeiriai at y golled a gafodd mewn addysg a diwylliant. Bu ei deithiau hirfeithion ar y môr yn anfantais i'w wybodaeth, ac onibai am deimlad crefyddol ambell i gapten yn darllen rhannau o'r Ysgrythur ar y Sul, buasai ei wybodaeth yn llawer llai. Aml y dywedai mai yng nghyfnod ieuenctid yr oedd dysgu, ac fod adeg ym mywyd dyn pan nas gallai wedyn, er pob ymdrech, wneud i fyny er ceisio am y golled. Ychydig o adnodau a phrofiadau'r Gair oedd gan ein brawd yn drysoredig yn ei gof, ac yr oedd ei wybodaeth ysgrythyrol yn brin ac elfennol; er hynny, yr oedd ganddo brofiad gwerthfawr a sylweddol. Yr oedd gwersi'r môr yn llyfr ysbrydoledig iddo. Pan sonid am y môr ar y bregeth byddai yn 'glust i gyd' ar y foment, ac odid na chawsai air â'r pregethwr o berthynas i'r môr. Fodd bynnag, yr oedd y pregethwr hwnnw yn sicr o fod yn un 'da' yn syniad Sam Roberts! Gwedi gweled rhyfeddodau Duw yn eigion moroedd ac ymchwydd eu tonnau teitlai yr Hollalluog fel y 'Brenin mawr', a siaradai lawer am ei lywodraeth, ei ofal, a'i amddiffyniad.

Deuai Sam Roberts i bob cynnulliad Eglwysig tra y caniatäi ei iechyd a'i nerth, ac yr oedd iddo ddrws agored a chroesaw bob amser. Byddai mor hapus a'r gog yn y cyfarfodydd plant, a gwenai mor siriol pan ganmolid hwy am ateb pwnc neu ymddygiad teilwng: teimlai a gwgai drachefn pan orfyddid ceryddu am ryw gamymddygiad neu gilydd. Unwaith gwelwyd yr hen bererin yng Nghyfarfod y Mother's Union, ac nid ynganwyd sill gan neb o wrthwynebiad iddo: iddo ef yr oedd yn wasanaeth Duw, a'i ddymuniad oedd cefnogi yr offeiriad. Dealled y darllenydd ei fod yn old age-pensioner ers blynyddau, a chan fod ganddo amser ar law treuliodd y cyfryw i gynorthwyo achos Duw ar adegau pan na byddai eraill yn gallu presenoli. Bu o gynorthwy dirfawr i ysgrifenydd yr erthygl hon mewn cysylltiad â'r Gwasanaethau Ymbiliadol. Cofiaf yn dda am ei ddywediad ar un boreu Gwener pan and oedd y presennoldeb yr hyn ddisgwyliem. 'Dim ond tri ar adeg mor bwysig!' ebwn i. 'Na, syr', ebai Sam Roberts, 'yr oedd pedwar yno. Yr oedd y Brenin mawr hefo ni'. Yr oedd sylw o'r fath yn godiad calon. Huned mewn hedd.

Diau y bydd yn dda gan ddarllenwyr ieuainc y Cyfaill gael tipyn o hanes rhamantus ein cyfaill ar y môr. Un tro, yn ystod Rhyfel Gartrefol yr Amerig, cychwynnodd o Boston gyda'r llong 'Express' am Loegr. Daliwyd y llong gan yr 'Alabama', lleidr-long feiddgar a chyflym. Galwyd am bapyrau y llong, ac wedi archwiliad manwl gorchymynwyd i ddwylaw yr 'Express' ostwng eu cychod a byrddio y lleidr-long. Gwedi lladrata pob peth gwerth ei gael rhoddwyd yr 'Express' ar dân. Yr oedd yn barod oddeutu haner cant o longwyr eraill yn garcharorion. Bu ein brawd, fel St. Paul gynt, mewn cyffion a heiyrn am bum wythnos; ond rhywfodd cafodd ef ac eraill eu rhyddhau, a daethant yn wasanaethyddion ar fwrdd y lleidr-long. Daliodd y swydd hon am dros flwyddyn, ond cynted byth ag y cafodd gyfleustra i ddianc fforffetiodd ei hawl i ran o 'daledigaeth y wobrwy' (cydrhwng dwy a thair mil o bunnau), a diangodd am fywyd a rhyddid.

Gelwid yr hen gyfaill ar lafar gwlad wrth yr enw 'Sam Roberts, yr Alabama', ac nid anfynych yr apelid at ei falchder trwy ei alw yn 'Gapten Roberts'. Wele ychydig o fanylion am yr Alabama – adeiladwyd y llong gan y Mri. Lavid, Birkenhead, a bu achos o lawer o ddrwgdeimlad cydrhwng y wlad hon a'r Unol Dalaethau. Ar y 31ain o Orffennaf, 1862, dihangodd yn ddirybudd o'r afon Ferswy. Nid oedd iddi enw, a chafodd ei galw yn 'No.290'. Aeth am Terceira, lle y dodwyd arni ynnau mawrion. Cyflenwyd hi hefyd â digonedd o lo a nwyddau angenrheidiol eraill oddiar long arall oedd yn gyfrannog o'r twyll. Dewiswyd un Capten Semmes yn feistr y llomg, galwyd hi wrth yr enw 'Alabama', a chwifiwyd arni faner y Condfederates. Rhifai dwylaw y llong 80, a'r arfau wyth o 32-pounders. Gan ei bod yn gallu morio yn gyflym, bu ei gyrfa yn niweidiol iawn i longau eraill am oddeutu dwy flynedd o amser. Aeth amryw o longau rhyfel i geisio ei dala, ond llwyddodd i'w twyllo am fisoedd lawer. Dywedir iddi ddal a llosgi 65 o longau, a dinistrio eiddo gwerth o leiaf bedair miliwn o ddoleri. Ym mis Mehefin, 1864, suddwyd hi ger Cherbourg gan long yr Unol Dalaethau o'r enw 'Kearsage'. Cymerodd amser maith i wisgo allan gynddaredd yr Unol Dalaethau tuag atom am adael i'r llong hon fyned i'r môr, a bu gorfodaeth ar ein gwlad ni yn y flwyddyn 1872, gwedi gwrandawiad o'r achos mewn llys cyflafareddol, dalu y swm o £3,299,166 i fodloni yn derfynol hawliau yr Unol Dalaethau ar ein Llywodraeth.

Cafodd ein cyfaill gladdedigaeth barchus. Daeth côr yr Eglwys a'r aelodau ynghyd yn gryno, a dangoswyd pob parch i'w goffadwriaeth. Gadawodd ei oriawr yn anrheg i'r Eglwys am ei gofal ohono.

Dymunwn ddiolch i Olygydd yr Herald, Caernarfon, am fenthyg y darlun hwn ohono.

No comments:

Post a Comment