27.9.13

Llythyr Pennal, Owain Glyn Dwr

Saif Owain Glyn Dwr yn amlwg ymhlith arwyr ac arweinwyr cenedl y Cymry. Arweiniodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth Lloegr yng Nghymru a datblygodd weledigaeth o wlad annibynnol â'i heglwys a'i phrifysgolion ei hun.

Yn dilyn esiampl ei hynafiad enwog, y tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a gynullodd gyngor o'i benaeithiaid ar aber Afon Ddyfi yn 1216, ym mhentref Pennalyn ystod y Garawys 1406, y llywyddodd y tywysog Owain Glyndwr dros Senedd olaf y Gymru annibynnol. Owain oedd etifedd mantell y Brenin Arthur, a Phendragon olaf Cymru. Yn 1404 fe'i coronwyd yn "Dywysog Cymru drwy ras Duw". Cefnogid Owain gan glerigion Cymreig a gawsai ei diarddel gan Rufain, a chan dywysogion ac uchelwyr ei bobl. Lluniodd bolisi ar gyfer y genedl Gymreig a'i heglwys a adwaenir hyd heddiw fel Polisi Pennal. Yr oedd hon yn rhaglen radical ac eang ei gweledigaeth sy'n dal hyd heddiw i danio'r dychymyg.

Rhan bwysig o ymgyrch Owain Glyn Dwr i'w sefydlu ei hun yn arweinydd ar Gymru annibynnol oedd ffurfio cynghreiriau â gwledydd sofran eraill, yn enwedig felly Ffrainc. Bu'n ymgysylltu â brenin Ffrainc yn 1404, ac yna yn 1406 ceisiodd ffurfioli'r bartneriaeth trwy ddatgan ei deyrngarwch i bab Avignon, Benedict XIII. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd dau Bab yn ceisio rheoli'r Eglwys – y naill yn Rhufain a'r llall yn Avignon yn Ffrainc. Yr oedd brenin Ffrainc, Charles VI, yn awyddus i gael ei holl gyngrheiriaid ef yn deyrngar i bab Avignon: yr oedd brenin Lloegr yn deyrngar i bab Rhufain.

Yn ogystal a derbyn cefnogaeth urddau crefyddol yng Nghymru, yn arbennig y brodyr Ffransisaidd a'r mynaich Sistersaidd, elwodd Owain yn fawr ar ffyddlondeb a phrofiad prif wyr Eglwysig yr oes. Brwydrodd llawer ohonynt ochr yn ochr ag ef … Gruffudd Vonge (Canghellor ac Archddiacon Meirionnydd), John Trefor (Archesgob Llanelwy), Hywel Cyffin (deon Llanelwy), Llywelyn ap Ieuan (Esgob Bangor), Ifan ap Bleddyn ap Gronw (Archddiacon Sir Fôn) a Dafydd ap Ifan ap Dafydd ap Gruffudd (Deon Bangor).


Gan fod y Cymry eisoes wedi tyngu llw o deyrngarwch i'r Brenin Rhisiart II, gwrthododd y genedl gydnabod Harri IV yn frenin cyfreithlon, a throsglwyddodd Owain Glyndwr ei deyrngarwch i Benedict XIII, y pab Ffrengig, ar y ddealltwriaeth y cyflawnid rhai amodau a fyddai o fudd i genedl y Cymry. Yn bennaf ymhlith y rhain oedd yr amodau a ganlyn …

Eglwysi Cymru i fod yn gyfan gwbl annibynnol ar Gaergaint, gyda sedd yr Archesgob yn Nhyddewi;

Dim ond dynion rhugl eu Cymraeg i gael eu penodi i fywoliaethau yng Nghymru;

Dim grantiau na gwaddoliadau o Gymru i'w talu i fynachdai a cholegau yn Lloegr;

Cymru i gael dwy brifysgol i addysgu ei chlerigion, y naill yn y gogledd a'r llall yn y de.

Gofynnodd Owain hefyd i'r Pab Benedict XIII drefnu croesgad yn erbyn Harri IV am fod hwnnw'n dinistrio eglwysi heb rheswm ac yn dienyddio'r offeiriaid. Gofynnodd i Siarl VI o Ffrainc ddefnyddio'i ddylanwad i berswadio'r Pab i dderbyn yr amodau uchod.

Y dyddiad ar lythyr Pennal yw 31 Mawrth, 1406, ac aed a'r llythyr i Baris gan genhadon Owain, sef Hywel Eddoyer a Maurice Kerry.

Mae 'llythyr Pennal' yn ddwy ran: un llythyr byr yn datgan bwriad Owain i ufuddhau i bab Avignon, a dogfen ffurfiol wedi'i selio â'i sêl fawr sydd yn gosod telerau ei deyrngarwch, gan gynnwys sefydlu eglwys annibynnol a dwy brifysgol yng Nghymru. Gosodir isod gyfieithiad o'r ddwy ddogfen. Mae rhan helaeth o'r ddogfen hir yn cynnwys adroddiad manwl ar y rhesymau pam y daeth yr ymraniad yn y babaeth i fod, a rhoir crynodeb yn unig o'r darn hwnnw.

Mae'r testun gwreiddiol wedi ei ysgrifennu yn Lladin. Ceir y cyfieithiad Saesneg yn: T. Matthews, Welsh Records in Paris (Carmarthen, 1910). Mae'r dogfennau gwreiddiol ar fenthyg o'r Archives Nationales de France, J516B.40 a J516.29.

Y llythyr byr …

Ardderchocaf dywysog, yr ydych wedi ei hystyried yn deilwng, ar sail yr anogaeth a anfonwyd, i ddysgu sut y gormeswyd ar fy nghenedl dros lawer blwyddyn a aeth heibio, gan lid y Sacsoniaid barbaraidd; ac am fod ganddynt lywodraeth drosom, ac yn wir oherwydd hynny, yr oedd yn ymddangos yn rhesymol iddynt ein sathru dan draed. Ond yn awr, ardderchocaf dywysog, yr ydych trwy lawer ffordd, o'ch daioni cynhenid wedi fy hysbysu i a'm deiliaid yn eglur ac yn rasol iawn ynghylch cydnabod gwir Ficer Crist. Yr wyf fi yn wir yn gorfoleddu â'm holl galon ar bwys y wybodaeth hon gan eich ardderchogrwydd; ac oherwydd fy mod wedi deall trwy hyn fod yr arglwydd Benedict, y pab goruchel, yn bwriadu gweithio â'i holl nerth i greu undeb o fewn Eglwys Duw. Gyda phob hyder yn ei hawl, a chan fwriadu cytuno â chwi hyd y gallaf, yr wyf yn ei gydnabod ef yn wir Ficer Crist, ar fy rhan fy hun, ac ar ran fy neiliaid trwy'r llythyron agored hyn, i'w cyflwyno yng ngwydd eich mawrhydi gan eu cludydd; ac o achos, ardderchocaf dywysog, y gorfodwyd eglwys archesgobol Tyddewi, trwy drais gan ddicter barbaraidd y sawl a deyrnasai yma, fel yr ymddengys, i ufuddhau i egwys Caer-gaint, a'i bod yn aros yn y darostyngiad hwn hyd heddiw. Dioddefodd eglwys Cymru lawer anfantais arall trwy law'r barbariaid hyn, fel y gosodir allan yn llawnach yn y llythron agored sy'n cyd-fynd â'r rhain. Erfyniaf yn daer ar eich mawrhydi i beri anfon y llythyron hyn at yr arglwydd y goruchaf bab, fel, gan eich bod wedi gweld yn deilwng ein codi o dywyllwch i oleuni, y byddwch yn yr un modd yn dymuno dinistrio a dileu trais a gormes yr eglwys a'm deiliaid, y ôl eich gallu digonol. A boed i Fab yr ogoneddus Forwyn hir gadw eich mawrhydi yn yr hawddfyd a addewir. Ysgrifennwyd ym Mhennal, ddiwrnod olaf Mawrth.

Yr eiddoch trwy adduned
Owain tywysog Cymru

Ar gefn y llythyr:

At yr ardderchocaf a hyglod dywysog, yr arglwydd Siarl, trwy ras Duw, brenin Ffrainc.


Y ddogfen ffurfiol …

At yr hyglod dywysog, yr arglwydd Siarl, trwy ras Duw, brenin y Ffrancwyr, y mae Owain trwy'r un gras yn anfon gydag anrhydedd y parch y mae tywysog o'r fath fri yn ei deilyngu. Bydded hysbys i'ch ardderchogrwydd ein bod wedi derbyn gennych ein herthyglau a ysgrifennir isod a gyflwynwyd inni gan Hugh Eddouyer, o Urdd Sant Dominic, a Maurice Kerry, ein cyfeillion a'n negeswyr ar yr wythfed dydd o Fawrth ym mlwyddyn ein Harglwydd 1406, yn ôl ffurf a'r perwyl a ysgrifennir isod:

Yn y lle cyntaf maent yn mynegi i'r dywededig arglwydd y tywysog gyfarchiad gwresog ar ran ein harglwydd y brenin a thrwy ei lythyron hyn. Y mae ein harglwydd y brenin yn dymuno'n fawr wybod am ei ystad ac am lwyddiant eu trafodaethau, ac y mae'n gofyn iddo ysgrifennu mor aml ac y gall, yr hyn a rydd iddo bleser mawr; a bydd yn sôn wrtho'n fanwl an ystad y dywededig arglwydd, y brenin, y frenhines a'u plant a'r arglwyddi eraill a'r tywysogion brenhinol; ac fel y mae gan ein harglwydd y brenin a'r tywysogion brenhinol eraill serch didwyll a chyfeillgarwch gwresog at y dywededig dywysog, ynghyd a sêl dros ei anrhydedd, ei ystad dda a'i ffyniant, ac yn hyn gall y dywededig arglwydd dywysog lwyr ymddiried.

Maent hefyd yn esbonio i'r un arglwydd, y tywysog, sut y mae ein harglwydd y brenin, sy'n ei barchu'n ddidwyll ac yn gariadus, yn awyddus iawn, gan eu bod wedi eu clymu a'u huno mewn materion ysbrydol a phethau eglwysig, iddynt allu cerdded gyda'i gilydd yn nhy yr Arglwydd. Y mae'r arglwydd frenin hefyd yn gofyn i'r un arglwydd dywysog ystyried yn ffafriol hawliau'r arglwydd bab Benedict XIII, oruchaf bab yr eglwys gyffredinol, ac y bydd iddo ddysgu a pheri i'w holl ddeiliaid, ddysgu; mae'r arglwydd frenin yn dal ei bod er lles ei enaid ac eneidiau ei ddeiliaid, ac er diogelwch a sicrwydd ei ystad, ac y bydd eu cyfamod wedi ei seilio'n gadarnach ac yn fwy dilys ym mantais ffydd ac yng nghariad Crist. Eto y mae pob Cristnogion ffyddlon i'w haddysgu eu hunain am wirionedd ymraniadau, ond o blith pawb, delir mwy ar dywysogion, oherwydd gall eu barn hwy arwain llawer ar gyfeiliorn, yn enwedig eu deiliaid sydd yn rhwym o gydymffurfio â barn eu gwell. Y mae hefyd er eu budd, yn rhinwedd eu dyletswydd, i ofalu trwy pob ymdrech y bydd ymraniadau felly yn cael eu dileu a'r eglwys yn cael undod yn Nuw. Ac oherwydd y dylai ef sy'n wir Ficer Crist gael ei adnabod a'i dderbyn gan yr holl ffyddloniaid yng Nghrist, tra dylai ef sy'n ymwthiwr, ac y gwyddus iddo trwy ddulliau ysgeler drawsfeddiannu'r esgobaeth apostolaidd sanctaidd, gael ei ymlid a'i daflu o'r neilltu gan yr holl ffyddloniaid fel anghrist. Ac i'r diben hwn dylent ymrwymo i ymdrechu hyd yr eithaf yn unol â gorchmynion y tadau sanctaidd, at ba nod y mae'r dywededig arglwydd frenin wedi llafurio nid heb gryn gost ac yn dal i lafurio'n ddiflino.

(Y mae rhan nesaf y ddogfen yn dweud sut yr aeth y negeswyr a ddaeth o Ffrainc ati i gyfiawnhau hawliau'r pab Benedict XIII trwy roi hanes manwl yr ymraniad yn y babaeth. Y mae brenin Ffrainc yn apelio ar Owain i ystyried yr holl hanes a bwrw ei goelbren o blaid Benedict XIII. Mae'r brenin yn addo ceisio sicrhau na fydd bygythiad i benodiadau 'pab Rhufain' yng Nghymru os bydd Owain yn cydnabod Benedict. Rhan olaf y llythyr yw datganiad Owain o'i fwriad).

Yn unol â thrafodaethau ein cyngor galwyd ynghyd uchelwyr ein hil ac esgobion ein tywysogaeth ac eraill a gynullwyd at y pwrpas hwn, ac o'r diwedd wedi archwilio a thrafod yn fanwl yr erthyglau uchod a'u cynnwys gan yr esgobion a'r clerigwyr, cytunir yn derfynol, gan ymddiried yn hawliau'r arglwydd Benedict, y pab sanctaidd goruchel Rhufeinig dros yr eglwys gyffredinol, yn enwedig am iddo geisio heddwch ac undod yr eglwys, a'i fod yn dal i'w ceisio yn ddyddiol yn ôl a ddeallwn, ac o ystyried gweithred galed gwrthwynebydd yr un Benedict yn rhwygo mantell diwnïad Crist, ac o'r cariad didwyll sydd gennym tuag at eich mawrhydi yn arbennig, bod y dywededig arglwydd Benedict i'w gydnabod yn wir Ficer Crist yn ein tir gennym ni a'n deiliaid, ac yr ydym trwy hyn yn ei gydnabod.

Ac o achos bod yr erthyglau isod, ardderchocaf dywysog, yn ymwneud yn arbennig â diwygiad a budd Eglwys Cymru, erfyniwn ar eich mawrhydi brenhinol yn rasol i'w hystyried yn deilwng o'u hyrwyddo gerbron y dywydedig Benedict:

Yn gyntaf, os oes cerydd eglwysig yn ein herbyn ni, ein deiliaid, neu ein tir gan y dywydedig arglwydd Benedict neu Clement ei ragflaenydd, yn sefyll, y bydd y dywydedig Benedict yn ei ddileu.

Eto, y bydd unrhyw lwon o ba fath bynnag gennym ni neu bwy bynnag arall o'n tywysogaeth i'r sawl a'u galwai eu hunain Wrban neu Boniffas, a fu farw'n ddiweddar, neu i'w dilynwyr, yn cael eu maddau.

Eto, y  bydd yn cadarnhau ac yn dilysu'r gorchmynion, y cyflwyniadau, hawliau esgobion, trwyddedau, dogfennau nodiadur, a phob peth arall, o amser Gregori XI, o ba rai y gall ddigwydd unrhyw niwed i'n heneidiau neu anfantais i ni ein deiliaid.

Eto, y bydd i Eglwys Tyddewi gael ei hadfer i'w hurddas gynhenid fel y bu o amser Dewi Sant, archesgob a chyffeswr yr eglwys archesgobol, ac wedi ei farwolaeth esgynnodd i'r un lle bedwar archesgob ar hugain, fel y ceir eu henwau yng nghroniclau a llyfrau hynafol eglwys Mynyw, a gwnawn fynegi'r rhain yn brawf, sef, Eliud, Ceneu, Morfael, Mynyw, Haerwnen, Elwaed, Gwrnwen, Llewdwyd, Gwrwyst, Gwgawn, Clydawg, Aman, Elias, Maelyswyd, Sadwrnwen, Cadell, Alaethwy, Novis, Sadwrnen, Drochwel, Asser, Arthwel, Dewi yr ail, a Samson; ac fel eglwys archesgobol y bu ganddi ac y dylai gael yr eglwysi isod yn ddarostynedig iddi, sef, Caer-esg, Caerfaddon, Henffordd, Caerwrangon, Caerlyr, yr hon esgobaeth a symudwyd i eglwysi Cwyntry a Chaerlwytgoed, Llanelwy, Bangor a Llandaf; oherwydd trwy ymosodiadau gorffwyll y sacsoniaid barbaraidd, a drawsfeddiannodd iddynt eu hunain dir Cymru a disodli eglwys Tyddewi, fe'i gwnaethpwyd yn llawforwyn i eglwys Caer-gaint.

Eto y bydd i'r un arglwydd Benedict ddarparu i egwys archesgobol Tyddewi ac eglwysi cadeiriol eraill ein tywysogaeth, esgobion, urddasolion, clerigwyr a churadiaid sydd o leiaf yn hyddysg yn ein hiaith.

Eto, y bydd i'r dywededig arglwydd Benedict ddileu a dirymu pob corfforiad, undeb a meddiannu o eglwysi plwyf yn ein tywysogaeth gan fynachlogydd a cholegau'r Saeson hyd yma, ac y bydd i wir noddwyr yr eglwysi hyn gael eu galluogi i gyflwyno o ordinariaid y lleoedd hynny bersonau addas neu benodi eraill.

Eto, y bydd i'r dywededig arglwydd Bebedict ganiatáu i ni ac i'n disgynyddion, tywysogion Cymru, y bydd ein capelau a'u tebyg yn rhydd ac yn mwynhau'r breintiau, yr esgusodiadau a'r trwyddedau yr oeddynt yn eu mwynhau yn amser ein cyndeidiau, tywysogion Cymru.

Eto, y bydd i ni gael dwy brifysgol neu leoedd astudio cyffredinol, sef un yng Ngogledd Cymru a'r llall yn Ne Cymru, mewn dinasoedd, trefi neu leoedd i'w pennu a'u cyhoeddi gan ein llysgenhadon i'r pwrpas hwn.

Eto, y bydd i'r arglwydd Benedict gondemnio yn heretic a pheri arteithio yn y ffordd arferol Henry o Lancaster, ymwthiwr i deyrnas Lloegr a thrawsfeddiannwr ei choron, a'i ddilynwyr, am iddo o'i wirfodd losgi neu beri llosgi cynifer o eglwysi cadeiriol, lleiandai, ac eglwysi plwyf, a'i fod yn annynol wedi crogi, dienyddio a phedwaru archesgobion, esgobion, offeiriaid a mynachod fel petaent yn ynfydion neu'n gardotwyr.

Eto y bydd i'r un arglwydd Benedict ganiatáu i ni, ein hetifeddion, ein deiliaid a'u dilynwyr, o ba genedl bynnag y bônt, sydd yn rhyfela yn erbyn y dywededig ymwthiwr a thrawsfeddiannwr, cyhyd ag y daliont y ffydd uniongred, faddeuant llawn am ein holl bechodau, a bod y maddeuant i barhau tra pery'r rhyfel rhyngom ni, ein hetifeddion a'n deiliaid, a'r dywededig Henry, ei etifeddion a'i ddeiliaid.

Yn dystiolaeth o hyn gwnaethom ein llythyrau hyn yn agored. Rhoddwyd ym Mhennal ar ddydd olaf Mawrth, ym mlwyddyn ein Harglwydd 1406 ac yn chweched flwyddyn ein teyrnasiad.


Ar y cefn:

Y llythyr trwy ba un y darostyngodd Owain, tywysog Cymru, ei hunan, ei diroedd a'i diriogaeth i awdurdod ein harglwydd y pab (benedict) XIII.

Cedwir y llythyr gwreiddiol yn yr Archives Nationales ym Mharis, Ffrainc. Mae ffacsimili o'r llythyr yng Nghapel Brenhinol Owain Glyndwr ym Mhennal ynghyd ac eitemau o ddiddordeb hanesyddol, gan gynnwys paentiad gan Aneurin Jones o 'Gynulliad Cymreig 1406'.




























  


No comments:

Post a Comment