Cerdd gan Owain Ddu
sef y Parchedig O. J. Davies, Llanfyllin
Gu Forfudd ddaeth yn gyntaf
I siriol wenu'n llon;
A Gwyneth ddaeth i'w chanlyn
A chwerthin dan ei bron.
Ac yna daeth Mair Iola,
A miri fel y dail,
I wenu yn y gwanwyn
Dan wenau serch yr haul.
Daeth Glenus fach i ddawnsio
O flaen y lleill yn llon,
Myfanwy yw ail-enw
R'angyles fechan hon.
Yn bumed wele Alys
A'i llygaid gloew glân,
Ac Ann Bronwen i'w chanlyn
Fel darn o nefol gân.
Wel, boed i chwi rai tirion
Ddedwyddyd lond y byd,
I chwyddo cylch daioni
Tra fyddoch yma 'nghyd,
A phan ddaw erchwyn
I wely maser draw,
Boed i chwi bob llawenydd
Byd a ddaw.
30ain Ionawr, 1945
22.8.13
Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian
I gofio am y Dywysoges Gwenllian (1282-1337), unig blentyn Llywelyn ap Gruffydd, (ein Llyw Olaf) Tywysog Cymru, ag Eleanor de Montfort. Carcharwyd hi mewn lleiandy yn Sempringham (Swydd Lincoln) am 54 o flynyddoedd, dan orchymyn y Brenin Edward I, hyn i sicrhau diddymu llinach Tywysogion Cymru.
Er fod yna ddefodau sifalri a chanu cerddi yn y Brydain ganol oesol yr oedd yn gyfnod o greulondeb dwys a chaledi mawr. Yr oedd Lloegr benben â Chymru a'r rhannau Celtaidd eraill o Brydain. Erbyn 1282, Llywelyn ap Gruffydd (ein Llyw Olaf) oedd Tywysog Cymru, yr oedd o hen linach Tywysogion Gwynedd. Yn 1278 priododd Llywelyn ag Eleanor de Montfort mewn seremoni ar risiau allanol Eglwys Gadeiriol Caerwrangon mewn priodas frenhinol. 'Roedd Brenin Alecsander yr Alban yno, a Brenin Lloegr, y Norman Edward I, a roddodd anrhegion cymwys i ddathlu'r amgylchiad. Ond nid oedd parhad i'r cyfeillgarwch yma.
Ym Mehefin 1282, yng Ngarth Celyn, Aber ger Bangor (mae'r lle'n dal i fod) ganwyd merch i Eleanor a'r Tywysog Llywelyn – y Dywysoges Gwenllian. Tristwch fu marw Eleanor o achosion rhoi genedigaeth. Fel unig blentyn Llywelyn yr oedd i Gwenllian le pwysig iawn yn olyniaeth teulu Tywysogion Cymru, oherwydd hyn yr oedd Edward I yn ei gweld yn fygythiad i Goron Lloegr. Pan oedd Gwenllian yn 6 mis oed trefnodd Edward i Lywelyn gael ei lofruddio ger Llanfair-ym-Muallt, ac yna gorchmynnodd y Brenin i'r ferch fach amddifad gael ei chipio oddiwrth ei theulu.
Er mwyn sicrhau na chai Gwenllian eni plant fe'i hanfonwyd i Briordy o Urdd Gilbert ar dir Abaty Sempringham ynghanol corsdiroedd Swydd Lincoln, taith hirfaith o Gymru.
Bu fyw yno am 54 o flynyddoedd yn lleian; yn ddi-urddas, di-wrogaeth hyd ei marw yn 1337. A oedd hi'n gwybod pwy oedd hi? Pwy wyr?
Yr oedd Edward yn benderfynol y dylid anghofio Gwenllian, i ni, fuodd hi'n ddim mwy nag is-nodyn bach ar waelod tudalen mewn llyfrau hanes. 'Does fawr ddim o'i hanes ar gael ar wahan i ddyddiad ac amser ei marw.
Ond yn 1991 ysgrifennodd Byron Rogers y newyddiadurwr a'r hanesydd erthygl am Wenllian yn y Guardian. Darllenodd Capten Richard Turner, Caernarfon, hen longwr bywiog a phenderfynol yr erthygl, a theimlodd i'r byw fod y rhan yma o'r hanes wedi ei galw oddiwrthym. Aeth y Capten ati i godi cofeb fach i Wenllian ar dir ger safle'r Priordy ger Abaty Sempringham. Mae mur gogleddol a chorff eglwys Sant Andreas heddiw yn rhan o'r hen Abaty. Yn 1996 adeg marw Capten Turner, gweithredwyd ar y syniad o sefydlu Cymdeithas y Dywysoges Gwellian; gyda'r nôd o ofalu am y gofeb ac i gadw'r cof amdani yn fyw.
Erbyn 2001 'roedd y gofeb yn dadfeilio a chodwyd cofeb newydd iddi ar yr un safle, darn hardd o wenithfaen gadarn Gwynedd. Mae hi i'w gweld ychydig i'r de o Billingborough ar y lôn gul sy'n arwain o'r B1177 at Eglwys Sant Andreas sy'n dal i ddwyn yr enw 'Abaty Sempringham' ar lafar gwlad.
Gwaith Ieuan Rees y cain-lythrennwr byd-enwog yw'r Gofeb newydd, fe'i codwyd mewn ymateb i haelioni pobl o bob rhan o'r byd; pobl sydd yn teimlo colli hanes ein 'Tywysoges Goll' a fu mor agos cael ei llwyr anghofio.
Os am fwy o wybodaeth ac i gefnogi nod y Gymdeithas am isafswm o £5 y flwyddyn cysylltwch â'r Ysgrifennydd, Mrs Mallt Anderson, 158 Lake Road East, Parc y Rhath, Caerdydd, CF23 5NQ; ffôn 02920 753695; ffacs 02920 754669 neu ebost donald@andz.freeserve.co.uk

Mantell aur Yr Wyddgrug
Arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Gorffennaf – Medi 2013
Cyd-destun y fantell
Mantell aur Yr Wyddgrug yw un'r campweithiau gorau o grefftwaith aur o'r Ewrop gynhanesyddol. Heddiw, mae'n un o drysorau casgliadau'r Amgueddfa Brydeinig sy'n helpu i adrodd hanes y byd ac sy'n destun mwynhad i filiynau o ymwelwyr. Mae'n wrthrych eiconig sy'n cysylltu Cymry heddiw â'u gorffennol hynafol.Darganfyddiad 1833
Cafodd mantell aur Yr Wyddgrug ei darganfod ar 11 Hydref 1833 ym Mryn yr Ellyllon, ar gyriuon dwyreiniol Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Wrth i weithwyr lenwi pwll gro ar ymyl ffordd daeth gwrthrych aur yr oedd yn deilchion i'r golwg ymhlith y cerrig. Cafodd y fantell aur ei darganfod mewn bedd carreg, crwn o gwmpas olion sgerbwd dynol nad oedd wedi goroesi'n dda iawn. Cafodd llawer o leiniau ambr eu darganfod hefyd, wedi'u gosod mewn rhesi ar y fantell, a darnau o frethyn, wedi'u clymu i'r fantell o bosib, ond ni oroesodd y rhain.
![]() |
| Adluniad gan Tony Daly o'r darganfyddiad ym 1833 |
Er i rai o'r darnau o eurddalen a gwrthrychau eraill fynd ar goll neu gael eu gwahanu, cafodd y rhan fwyaf eu caffael gan yr Amgueddfa Brydeinig ym 1836. Yn ogystal â'r darnau aur, mae gwrthrychau eraill o'r bedd wedi goroesi hefyd gan gynnwys rhan o gyllell efydd, stribedi cefnu efydd ac un glain ambr.
Enw'r garnedd gladdu yw Bryn yr Ellyllon, sef bryn y bwganod neu goblynnod. Mae cyfoeth o chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â'r bryn. Yn ôl un hanes, gwelwyd ysbryd euraidd dyn anferth yn sefyll ar y bedd. Medd eraill y gwelwyd ysbryd bachgen wedi'i wisgo mewn aur ar bwys y twmpath.
"Mae'r man y cafodd ei ddarganfod ar fanc gro bychan, y mae llawer ohonynt i'w cael wrth ymyl afon Alun, yn nyffryn yr Wyddgrug …" Dyfyniad o lythyr y Parch Clough, Archaeologia, 1836.
O gorsled Brydeinig i fantell defodol
Adeg darganfod mantell aur Yr Wyddgrug, penderfynwyd mai corsled neu ddwyfronneg pennaeth Prydeinig ydoedd. Roedd rhai hyd yn oed o'r farn mai bedd Benlli Gawr ydoedd, sef un o dywysogion canoloesol chwedlonol Powys.
![]() |
| Adluniad ar ffurf mantell, 1953 |
![]() |
| Adluniad o'r fantell ar ffurf corsled |
Gwnaed gwaith ymchwil newydd yn y 1950au a deallwyd mai mantell ddefodol oedd y darnau aur. Sylweddolodd yr archaeolegydd Terence Powell, trwy ei waith gyda Brian Hope-Taylor, ei bod yn gwneud mwy o synnwyr taw efelychu gleiniau yn gorchuddio'r ysgwyddau oedd cromlin yr eurddalen a llinellau llifeiriol y dyluniad. Llwyddodd Powell i ddod o hyd i agweddau tebyg ar wrthrychau aur Ewropeaidd eraill hefyd gan ei arwain i awgrymu bod y fantell yn dyddio o'r Oes Efydd Ganol. O ganlyniad i'r syniad newydd hwn, gwnaed adluniad o'r fantell gan yr Amgueddfa Brydeinig yn ystod y 1960au ac, yn fwy diweddar, yn 2002.
Fyddwn ni byth y gwybod pwy oedd y crefftwr a greodd y fantell. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn grefftwr heb ei ail a oedd yn rhan o draddodiad gweithio aur boglynnog oedd a'i wreiddiau ym Mhrydain ac Iwerddon. Erbyn hyn, credir i'r fantell gael ei chreu yn ystod yr Oes Efydd Gynnar (tua 1900-1600 CC).
Doedd yr holl ddarnau o eurddalen yn y bedd ddim yn rhan o'r fantell. Mae eu dyluniad dipyn yn symlach, ac awgrymwyd yn ddiweddar y gallent fod yn rhan o ail fantell, gynharach fyth. Mae cofnod o'r ail ganrif ar bymtheg yn awgrymu y cafwyd hyd i fantell aur bosibl gerllaw.
Er nad oes yr un asgwrn o Fryn yr Ellyllon wedi goroesi, mae'r gwrthrychau yn y bedd – y mentyll, y mwclis gleiniau ambr a'r darn o gyllell efydd – yn awgrymu taw dynes, a hithau'n ddynes o gryn bwys, fyddai wedi gwisgo'r fantell.
"… darn o hanes a ganfuwyd nid nepell o Wrecsam tua dwy fluynedd yn ôl; sur ydoedd, megis corsled swyddog." Llythyr gan Richard Mostyn at yr hynafiaethydd o Gymro, Edward Lhuyd, dyddiedig 28 Chwefror 1694.
Cyd-destun y fantell – teyrnas ddefodol yn y gogledd ddwyrain
Trwy arolwg archaeolegol, gallwn weld fod nifer anarferol o uchel o henebion defodol Neolithig (tua 3400-2300 CC) a thomenni claddu mawr o'r Oes Efydd Gynnar (tua 2300-1500 CC) yn nyffryn afon Alun ac ar lwyfandir gogledd Sir y Fflint.
Yn dilyn archwiliad archaeolegol, mae dau safle yn nyffryn Alun wedi profi i fod yn arbennig o ddiddorol. Yn Llong, 1.5 milltir i'r de ddwyrain o'r Wyddgrug, cafodd heneb gladdu fawr ei chloddio gan Gymdeithas Hanes Sir y Fflint rhwng 1954 a 1956. Roedd mwclis muchudd o'r Oes Efydd Gymmar (tua 2000-1700 CC) wedi cael eu gwasgaru ymhlith cerrig carnedd, dros sgerbwd dynes ar ei chwrcwd. Archwiliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys weddillion heneb gladdu fawr iawn arall ym Mhenrehobin, i'r de o'r Wyddgrug, yn 2010. Roedd gan yr heneb ffos gron ddofn, 44m o ddiametr. Cafodd golosg o weddillion arch posibl eu canfod y tu mewn i'r heneb, a chawsant eu dyddio trwy ddull radiocarbon i rhwng 2400 a 2130 CC – ychydig yn gynharach na'r beddau gerllaw ym Mryn yr Ellyllon a Llong.
![]() |
| Carnedd y Gop, twmpath anferth o with dyn o'r cyfnod Neolithig Canol (3400-2800 CC) fwy na thebyg ar ymyl llwyfandir gogledd Sir y Fflint |
![]() |
| Y mwclis o leiniau muchudd a ganfuwyd yn Llong, gyda manylun |
Metelau a grym: aur Cymreig?
Mae'r fantell wedi'u chreu o tua 700g (1.5 pwys) o aur – y gwrthrych aur trymaf o'r Oes Efydd Gynnar ym Mhrydain. Trwy ddadansoddi'r metel, rydyn ni'n gwybod fod yr aur yn cynnwys lefel uchel o arian, rhan o'i 'lofnod' naturiol siwr o fod.
Roedd casglu cymaint â hyn o aur ynghyd yn dipyn o gamp, ac yn dangos cryn bwer. Mae'n bosib y daeth yr aur o ffynhonnell newydd a chyfoethog gerllaw, ac y cawn wybod yr union leoliad trwy waith ymchwil pellach yn y dyfodol. Efallai iddo ddod o'r nifer fawr o ddyddodiadau mwyn aur yng ngogledd neu orllewin Cymru, pwy a wyr?
Byddai copr a gloddiwyd yn y Gogarth ger Llandudno, ar Ynys Môn ac yn y canolbarth yn pasio drwy'r ardal hon hefyd. Dyma'r mwynfeydd fyddai'n darparu deunydd crai i weithdai castio efydd Prydain, i'w droi'n arfau ac offer hanfodol a gwerthfawr.
Oherwydd eu lleoliad canolog, gallai arweinwyr defodol y gogledd ddwyrain fanteisio i'r eithaf ar daith y metelau drwy eu tiroedd.
Dim ond cymuned greadigol, ffyniannus a chanddi gysylltiadau da fyddai â'r modd a'r uchelgais i greu mentyll defodol tebyg i'r rhai a ganfuwyd ym Mryn yr Ellyllon. Bron i ddwy ganrif ers ei darganfod, mae Mantell Aur Yr Wyddgrug yn dal i'n diddori a'n hysbrydoli gan roi cipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd yn y Gymru gynhanesyddol.
Dolenni defnyddiol:
I ddysgu mwy am yr amgueddfeydd partner a'u casgliadau, ewch i:
www.amgueddfacymru.ac.uk
www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth
www.britishmuseum.org
I ddarganfod mwy am archaeoleg Oes Efydd Cymru, ewch i:
www.archwilio.org.uk
www.coflein.gov.uk
www.finds.org.uk (Saesneg yn unig)
![]() |
| Mwynfeydd copr hysbys yr Oes Efydd Gynnar, ffynonellau posibl mwyn aur yng Nghymru a thaith y metelau i ardal ddefodol Yr Wyddgrug |
Byddai copr a gloddiwyd yn y Gogarth ger Llandudno, ar Ynys Môn ac yn y canolbarth yn pasio drwy'r ardal hon hefyd. Dyma'r mwynfeydd fyddai'n darparu deunydd crai i weithdai castio efydd Prydain, i'w droi'n arfau ac offer hanfodol a gwerthfawr.
Oherwydd eu lleoliad canolog, gallai arweinwyr defodol y gogledd ddwyrain fanteisio i'r eithaf ar daith y metelau drwy eu tiroedd.
Dim ond cymuned greadigol, ffyniannus a chanddi gysylltiadau da fyddai â'r modd a'r uchelgais i greu mentyll defodol tebyg i'r rhai a ganfuwyd ym Mryn yr Ellyllon. Bron i ddwy ganrif ers ei darganfod, mae Mantell Aur Yr Wyddgrug yn dal i'n diddori a'n hysbrydoli gan roi cipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd yn y Gymru gynhanesyddol.
Dolenni defnyddiol:
I ddysgu mwy am yr amgueddfeydd partner a'u casgliadau, ewch i:
www.amgueddfacymru.ac.uk
www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth
www.britishmuseum.org
I ddarganfod mwy am archaeoleg Oes Efydd Cymru, ewch i:
www.archwilio.org.uk
www.coflein.gov.uk
www.finds.org.uk (Saesneg yn unig)
21.8.13
Dun Aenghus – W. R. P. George
Dun Aenghus
Rhelyw o gaer, arlwy o gerrig
ar wasgar yn Aran
a roed ger fy mron
ar ford erwinder o faen;
garth a gwledd o deires gwrthgloddiau
aruthr oes y cewri.
Iasau tir â'i phiol
yn llawn o drawsterau ffiaidd
ym mharabl y muriau
hyn a fu'n gwarchod y cynddyn rhag y gelyn ac alaeth
gyda'i fuches lwyd y tu mewn i'w loches lem.
I'r golwg gynt o'r gwaelod,
ochr y tir,
golwg i ddarbwyllo gelyn
awchus, ar fedr cychwyn
cyrch, i beidio â dringo'r llethr draw
yn nhymor brath y muriau brwnt.
Pwy, tybed, a arlwyodd
dyrrau y foel a'u braster o faen,
caer y cerrig geirwon?
Ai duwiau y tu hwnt i'n deall?
Does neb, – neb meddan nhw yn Aran – a wˆyr.
Cilia hon rhag ei chroniclo hi;
hˆyn yw na hanes.
Mae ei miniog ddannedd hyd at heddiw
yn darostwng undydd dwrisiaid
ar ruthr ysgafala tua'i chrib
anwastad, â'u llygad ar amserlen y llong
a'u herys ym mhorthladd Aran.
A heulwen hygar heddiw dros Aran
ag Awst yn peri gosteg,
gosteg môr Iwerydd gwastad,
heddiw bnawn,
â'm chwilfrydedd yn llawn
cyn dychwelyd i'r llong
edrychaf o'r crib tua'r dibyn,
o'm troedle swyn ar y twyn drwy'r tes
a gweld rhedynwe'r gwynt
ar swnt islaw fel y swnt lle mordwyodd Odysews.
Ar gwr hagr y gaer hon
erioed ni thyfodd coeden
â nerth mast i'm rhwymo wrthi;
haul Awst a dawdd wêr fy nghlustiau.
Daw dwsmel, swyngyfareddol awelon
â'u melodi heibio im ar ymyl y dibyn.
Yn yr unigedd, o'r braidd, fe'm cyfareddir
i roi pen ar raib byd
a neidio ganllath isod i genllif
ar daen danaf fel maen mynor.
Erthygl gan Nicholas Watt o'r Times, 15/8/1995 (gan W. R. P. George)
Irish limit access to cliff top site …
tourists throwing stones dismantle Bronze Age fort
One of europe's most spectacular Bronze Age monuments is slipping into the sea because thousands of tourists have been allowed to wander freely over the site.
Dun Aengus, a clifftop fort on Inishmore, one of the Aran islands off the Co Galway coast, has fallen into such a state of disrepair that the Government has decided to limit access to the monument. The Office of Public Works responsible for maintaining heritage sites in the Irish Republic, is seeking planning permission to build a visitors' centre to act as a feeder point for tourists.
Up to 100,000 people a year visit the monument, which stands on top of a 300ft cliff on the southern side of Inishmore. During the summer, hundreds of people a day clamber over its walls and locals say they have seen visitors throw stones from the fort to see how long it takes for them to hit the sea.
Jim Blighe,for the OPW, said his department was very concerned about the state of Dun Aengus, "If hundreds of people throw stones off the cliff there will be no fort left. Anyone who visits the fort is impressed, but some people do get carried away."
Mr Blighe added that it had been unnecessary until recently to protect the fort because relatively few tourists visited the site. "It is only in recent years that access to the islands has become easier," he said. "It is now important to maintain the site because it is certainly the most spectacular in Ireland."
Dun Aengus, which covers 14 acres, consists of three enclosures defended by stout walls. The innermost wall, which is nearly 18ft high, is a semi-circle that runs up to the edge of the cliff and has a sheer right-angle drop to the sea 300ft below. Archaeologists who have been working on the fort since 1992 believe it was built in the late Bronze Age around 2000 BC to house and protect wealthy farmers, and then remodelled in the Iron Age (500 BC to AD 500).
Its magnificent ramparts were built in the early Christian period when the structure was reoccupied. The fort was restored in the 1880s.
Clare Cotter, director of the Western Forts Project, who is working on a series of stone forts along the West Coast of Ireland, described Dun Aengus as the most important in Ireland. Her team has uncovered food remains, foundations from ten houses, and fragments of clay moulds used to cast bronze tools.
Ms Cotter believes the plan for a visitors' centre is the best way of preserving the fort. "There will not be a serious threat if someone is here to oversee visitors and to tell them not to throw stones. Most people are well behaved but there is the odd thoughtless one."
Dun Aengus has long captured the imagination of Irish writers and in the 1850s an antiquarian society used to hold an annual dinner within the inner wall. The society was so concerned about the poor condition of the fort that in 1857 Sir William Wilde, the father of the writer Oscar, and president of the society, called on the islanders to preserve the site by refraining from digging out rabbits that sheltered in the walls.
According to An Aran Reader, a collection of writing about the island, he told the annual dinner: "It is much to be deplored that these vast buildings are so rapidly going to destruction, not by the slow hand of time, for to time they have almost bid defiance.
"The destruction we lament has been recent, and has befallen them from the hands of those who should preserve, not destroy them, as they have done in the pursuit of rabbits."

Dail rhag y Ddafad Wyllt
Llythyr a ymddangosodd yn Yr Herald, pryd????
At y golygydd,
Syr,
Ys gwn a garech gael manylion sut i dynnu'r "Ddafad Wyllt" i'w roi yn yr Herald?
Hen lyfr dail Dr. Dafid Jones, Llanllyfni, sydd gennyf, ac y mae'n sôn am lysiau at y Ddafad Wyllt.
'Roedd gennyf gorn ar fawd fy nhroed am flynyddoedd ond pan aeth yn waeth, ar ôl trio bob mathau o bethau, triais Ladies' Bedstraw fel y sonnir yn y llyfr. Fuaswn i byth yn credu mor effeithiol oedd o – 'roedd i'w glywed yn llosgi a thynnu llawer erbyn drannoeth i flaen fy mawd.
Codais y plaster i gael golwg beth oedd yn digwydd; 'roedd wedi chwyddo llawer ac yn cychwyn ar ei ffordd allan fel plensyn o'r pridd.
Daeth allan yn llwyr erbyn dau fis reit dda.
Cefais sicrhad meddyg mai'r Ddafad Wyllt oedd o – a dywedodd y buasai'n rhaid imi gael radium, etc, … heb ddefnyddio'r dail.
Enw Lladin i'r llysiau yw Galium verum, a maent i'w cael ar ochr cloddiau mewn llawn blodau ym mis Gorffennaf ac Awst (os na fydd peiriannau'r ffordd wedi eu torri ymaith – ac y maent yn dal i wneud o hyd bob haf) yn enwedig yn Llyn.
Maent yn llawn o flodau mân melyn ar y rhan uchaf o'r plensyn a dail reit fain amrywiol (bron fel pigau eithin).
Ym misoedd Gorffennaf ac Awst maent yn hawdd i'w gweld yn rhywle ar unwaith efo'r blodau melyn.
Cymerais ychydig frigau o ddail (a blodau) a rhoi y rhan uchaf sy'n cynnwys y dail gan eu tynnu ymaith oddi wrth y rhai isaf sy'n galetach a heb ddail. Rhoi'r dail mewn desgl ynghyd â saim cwcio (Trex, etc) a'u curo yn drwyadl am tua deng munud.
Yna rhoi ychydig o'r ennaint ar gauze plaster a'i roi ar y ddafad.
Synnais at yr helynt yma; bûm yn ei dorri lawer tro gan feddwl mai corn oedd o – mae'n amlwg and oes perygl yn hyn. Mae'r llysiau yma yn ddigon o feistr arno; 'fuaswn i byth yn coelio peth mor wyrthiol ydyw.
Hawdd yw adnoabod y llysiau hyn allan o lyfr llysiau o'r llyfrgell, etc. – a defnyddiais yr enw Saesneg iddynt am y rheswm yma. Prun bynnag, os oes rhywun yn methu cael peth 'toes eisiau dim ond gadael imi wybod.
Gwilym Jones,
Islwyn,
Rhoshirwain.

Who toppled "Y Glocsen"?
Cyhoeddwyd, yn Saesneg, yng nghylchlythyr Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri, Dyddiad??
A famous Snowdonia landmark lies broken a hundred yards below the place where it has perched precariously for the last few million (?) years on the north ridge close to the summit of the Llanberis Pass.
Known as an "erratic", the great boulder had been a spectacular feature of the Pass scenery since the ice retreated and left it stranded on the skyline, but, sadly, it is no more.
Last November there was a call from a local farmer, "Did we know that Y Glocsen (the Clog) had been pushed over?" We didn't, but quick inspection confirmed this information. The boulder lay broken in three pieces about a hundred yards below its usual position.
Immediately we circulated the Press and offered a £100 reward for any information that would identify the vandals. "In vino veritas!" We hoped there might have been some boasting over the evening pint. There were the inevitable crop of phone calls from people who refused to identify themselves but claimed to know all and would send further information – which never arrived.
Though from the road it looked as if a gentle push would dislodge the 30 ton rock, it was in fact securely anchored and even the Welsh scrum could not have moved it. Had it been possible it would have been pushed over years ago. It could, however, have been dislodged with a heavy duty jack and it was this type of contrivance, we believe, that was used to topple Y Glocsen.
There are alternative theories – that it had split naturally, upsetting the balance. Perhaps frost had brought this about but it had been an exceptionally mild autumn and careful examination of the site convinced us that Y Glocsen started its roll in one piece.
There was no sign of shattering round its original position. One large piece lies where the boulder bounced on a rocky outcrop and then rolling down the hill hit another outcrop and split in two. And so it lies, the pathetic remains of the proud ice age monument which had dominated the Pass for so many centuries.
Perhaps it was a challenge to ingenuity, rather than an act of pure vandalism, but the loss of Y Glocsen has, we know, angered many.

Damweiniau awyren yn Eryri
Cwm Edno – Aer Lingus Dakota EF-AFI 'Saint Kevin'
Yn hedfan o Northolt i Ddulyn, Ionawr 10fed 1952 hefo criw o 3 ac 20 o deithwyr; ar uchder o 4,500 troedfedd ac wedi croesi'r arfordir ger 'beacon' Nefyn. 'Turbulence' tros y mynyddoedd.
W. Williams o Hafod Rhisgl, Nant Gwynant yn clywed swn a gweld golau yn yr awyr oddeutu 7.15 yr hwyr ac yn mynd i fyny at Fwlch y Rhediad – gweld twll yn y gors o dan y Bwlch – darnau a awyren ar dân a chyrff.
8.20 – Air Traffic Control – awyren yn hedfan i'r dwyrain, methu Gallt y Wenallt a syrthio'n serth i'r gors. Y lle'n wlyb iawn a'r twll wedi llenwi hefo dwr 3 awr wedi'r gyflafan.
Cyrff, offerynnau miwsig a 'sheet music' yn fflio o gwmpas – 23 wedi marw.
Daethpwyd a'r cyrff i lawr yn ystod y nos – 9 (a darnau) i'r ysbyty yng Nghaernafon.
Pwmpiwyd dwr o'r twll yn y gors a darganfuwyd mwy o gyrff – hyn yn cario 'mlaen am dridiau – ansicr faint o gyrff a gafwyd – "approximately 10".
Ffensiwyd tua acer o'r tir a dau 'badre' o'r Iwerddon yno i'w gysegru – plac pren i'r peilot, y criw a'r teithwyr – dwynwyd hwnnw.
Lle gwlyb iawn – fe ddraeinwyd y lle gan JCB y fyddin.
Deunaw mis wedyn, yn haf 1953, aelod o dîm y Fali yn cerdded lawr llwybr y Watkin a darganfod darn o 'undercarriage' awyren mewn afon – nodwyd y 'serial numbers' a chafwyd eu bod yn perthyn i'r Dakota.
Mae'n rhaid ei bod wedi clipio'r Aran, colli'r 'undercarriage' yna colli uchder a syrthio yr ochr draw i Fwlch yr Hediad.
Aer Lingus yn gyrru £50 i dîm y Fali i brynu 'Thomas stretcher' – plac pres i ddynodi hynny arno.
Clogwyn Coch, Yr Wyddfa – Anson, C19 No. VM407
Yn hedfan o RAF Aldergrove, Fleet 23MU, Awst 11, 1952.
George Sellars (o Lanberis) yn gyrru'r tren i lawr o'r copa ar ddiwrnod niwlog a gwlyb a gweld awyren ar dân ar drofa Clogwyn Coch – 2 gorff ger yr awyren wedi eu llosgi'n ddrwg.
Y giard, John Robert Roberts, yn mynd lawr i steshion Clogwyn i ffonio Llanberis – y tren yn dychwelyd yn ôl i'r copa. Tren arall yn dod i fyny o Lanberis hefo'r tîm achub.
Croen yr awyren wedi toddi yng ngwres y tân.
Un o'r cyrff yn 'civilian' yn cael reid adre i Landw, Morgannwg.
120 o bobol yn y gwesty ar y copa dros nos.
Cof gennyf fod Raymond Foulkes, un o weithwyr y rheilffordd, wedi casglu dipyn o'r aluminiwm o safle'r gyflafan a'i doddi i greu croes?
Mynydd Mawr – Vampire MK V

Hydref 12fed, 1955 – Pobl lleol wedi clywed swn a golau – tywydd yn ddrwg.
10.00 yr hwyr – gweddillion yr awyren ar hyd copa'r mynydd – peilot 19 oed yn ddarnau.
Bera Mawr – Auster VF554, 663 Army Squadron

Hydref 21ain, 1955 – tua 4 o'r gloch y prynhawn tu cefn i'r Llwytmor – y peilot yn fyw.
Capel Celyn – Vampire
Capel Celyn – Vampire
Awst, 1956 – ar fferm yng Nghapel Celyn – y peilot wedi ei ladd.
Moel Wnion – Canberra BZ WK129, Pershore RRE,

Rhagfyr 10fed, 1957 – adroddiad fod na ddigwyddiad rhyfedd ar Foel Wnion.
Darnau o'r awyren ar gopa Foel Grach, ar wyneb clogwyn 50 troedfedd i'r dwyrain o dan y grib.
Cyrff a phethau cyfrinachol ar yr awyren.
Yn hedfan o'r Fali i Sain Tathan / H Hill.
Subscribe to:
Posts (Atom)