Llythyr a ymddangosodd yn Yr Herald, pryd????
At y golygydd,
Syr,
Ys gwn a garech gael manylion sut i dynnu'r "Ddafad Wyllt" i'w roi yn yr Herald?
Hen lyfr dail Dr. Dafid Jones, Llanllyfni, sydd gennyf, ac y mae'n sôn am lysiau at y Ddafad Wyllt.
'Roedd gennyf gorn ar fawd fy nhroed am flynyddoedd ond pan aeth yn waeth, ar ôl trio bob mathau o bethau, triais Ladies' Bedstraw fel y sonnir yn y llyfr. Fuaswn i byth yn credu mor effeithiol oedd o – 'roedd i'w glywed yn llosgi a thynnu llawer erbyn drannoeth i flaen fy mawd.
Codais y plaster i gael golwg beth oedd yn digwydd; 'roedd wedi chwyddo llawer ac yn cychwyn ar ei ffordd allan fel plensyn o'r pridd.
Daeth allan yn llwyr erbyn dau fis reit dda.
Cefais sicrhad meddyg mai'r Ddafad Wyllt oedd o – a dywedodd y buasai'n rhaid imi gael radium, etc, … heb ddefnyddio'r dail.
Enw Lladin i'r llysiau yw Galium verum, a maent i'w cael ar ochr cloddiau mewn llawn blodau ym mis Gorffennaf ac Awst (os na fydd peiriannau'r ffordd wedi eu torri ymaith – ac y maent yn dal i wneud o hyd bob haf) yn enwedig yn Llyn.
Maent yn llawn o flodau mân melyn ar y rhan uchaf o'r plensyn a dail reit fain amrywiol (bron fel pigau eithin).
Ym misoedd Gorffennaf ac Awst maent yn hawdd i'w gweld yn rhywle ar unwaith efo'r blodau melyn.
Cymerais ychydig frigau o ddail (a blodau) a rhoi y rhan uchaf sy'n cynnwys y dail gan eu tynnu ymaith oddi wrth y rhai isaf sy'n galetach a heb ddail. Rhoi'r dail mewn desgl ynghyd â saim cwcio (Trex, etc) a'u curo yn drwyadl am tua deng munud.
Yna rhoi ychydig o'r ennaint ar gauze plaster a'i roi ar y ddafad.
Synnais at yr helynt yma; bûm yn ei dorri lawer tro gan feddwl mai corn oedd o – mae'n amlwg and oes perygl yn hyn. Mae'r llysiau yma yn ddigon o feistr arno; 'fuaswn i byth yn coelio peth mor wyrthiol ydyw.
Hawdd yw adnoabod y llysiau hyn allan o lyfr llysiau o'r llyfrgell, etc. – a defnyddiais yr enw Saesneg iddynt am y rheswm yma. Prun bynnag, os oes rhywun yn methu cael peth 'toes eisiau dim ond gadael imi wybod.
Gwilym Jones,
Islwyn,
Rhoshirwain.
No comments:
Post a Comment