22.8.13

Cymdeithas y Dywysoges Gwenllian

I gofio am y Dywysoges Gwenllian (1282-1337), unig blentyn Llywelyn ap Gruffydd, (ein Llyw Olaf) Tywysog Cymru, ag Eleanor de Montfort. Carcharwyd hi mewn lleiandy yn Sempringham (Swydd Lincoln) am 54 o flynyddoedd, dan orchymyn y Brenin Edward I, hyn i sicrhau diddymu llinach Tywysogion Cymru.

Er fod yna ddefodau sifalri a chanu cerddi yn y Brydain ganol oesol yr oedd yn gyfnod o greulondeb dwys a chaledi mawr. Yr oedd Lloegr benben â Chymru a'r rhannau Celtaidd eraill o Brydain. Erbyn 1282, Llywelyn ap Gruffydd (ein Llyw Olaf) oedd Tywysog Cymru, yr oedd o hen linach Tywysogion Gwynedd. Yn 1278 priododd Llywelyn ag Eleanor de Montfort mewn seremoni ar risiau allanol Eglwys Gadeiriol Caerwrangon mewn priodas frenhinol. 'Roedd Brenin Alecsander yr Alban yno, a Brenin Lloegr, y Norman Edward I, a roddodd anrhegion cymwys i ddathlu'r amgylchiad. Ond nid oedd parhad i'r cyfeillgarwch yma.

Ym Mehefin 1282, yng Ngarth Celyn, Aber ger Bangor (mae'r lle'n dal i fod) ganwyd merch i Eleanor a'r Tywysog Llywelyn – y Dywysoges Gwenllian. Tristwch fu marw Eleanor o achosion rhoi genedigaeth. Fel unig blentyn Llywelyn yr oedd i Gwenllian le pwysig iawn yn olyniaeth teulu Tywysogion Cymru, oherwydd hyn yr oedd Edward I yn ei gweld yn fygythiad i Goron Lloegr. Pan oedd Gwenllian yn 6 mis oed trefnodd Edward i Lywelyn gael ei lofruddio ger Llanfair-ym-Muallt, ac yna gorchmynnodd y Brenin i'r ferch fach amddifad gael ei chipio oddiwrth ei theulu.

Er mwyn sicrhau na chai Gwenllian eni plant fe'i hanfonwyd i Briordy o Urdd Gilbert ar dir Abaty Sempringham ynghanol corsdiroedd Swydd Lincoln, taith hirfaith o Gymru.

Bu fyw yno am 54 o flynyddoedd yn lleian; yn ddi-urddas, di-wrogaeth hyd ei marw yn 1337. A oedd hi'n gwybod pwy oedd hi? Pwy wyr?

Yr oedd Edward yn benderfynol y dylid anghofio Gwenllian, i ni, fuodd hi'n ddim mwy nag is-nodyn bach ar waelod tudalen mewn llyfrau hanes. 'Does fawr ddim o'i hanes ar gael ar wahan i ddyddiad ac amser ei marw.

Ond yn 1991 ysgrifennodd Byron Rogers y newyddiadurwr a'r hanesydd erthygl am Wenllian yn y Guardian. Darllenodd Capten Richard Turner, Caernarfon, hen longwr bywiog a phenderfynol yr erthygl, a theimlodd i'r byw fod y rhan yma o'r hanes wedi ei galw oddiwrthym. Aeth y Capten ati i godi cofeb fach i Wenllian ar dir ger safle'r Priordy ger Abaty Sempringham. Mae mur gogleddol a chorff eglwys Sant Andreas heddiw yn rhan o'r hen Abaty. Yn 1996 adeg marw Capten Turner, gweithredwyd ar y syniad o sefydlu Cymdeithas y Dywysoges Gwellian; gyda'r nôd o ofalu am y gofeb ac i gadw'r cof amdani yn fyw.

Erbyn 2001 'roedd y gofeb yn dadfeilio a chodwyd cofeb newydd iddi ar yr un safle, darn hardd o wenithfaen gadarn Gwynedd. Mae hi i'w gweld ychydig i'r de o Billingborough ar y lôn gul sy'n arwain o'r B1177 at Eglwys Sant Andreas sy'n dal i ddwyn yr enw 'Abaty Sempringham' ar lafar gwlad.

Gwaith Ieuan Rees y cain-lythrennwr byd-enwog yw'r Gofeb newydd, fe'i codwyd mewn ymateb i haelioni pobl o bob rhan o'r byd; pobl sydd yn teimlo colli hanes ein 'Tywysoges Goll' a fu mor agos cael ei llwyr anghofio.

Os am fwy o wybodaeth ac i gefnogi nod y Gymdeithas am isafswm o £5 y flwyddyn cysylltwch â'r Ysgrifennydd, Mrs Mallt Anderson, 158 Lake Road East, Parc y Rhath, Caerdydd, CF23 5NQ; ffôn 02920 753695; ffacs 02920 754669 neu ebost donald@andz.freeserve.co.uk

No comments:

Post a Comment