22.8.13

Mantell aur Yr Wyddgrug

Arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam,
Gorffennaf – Medi 2013



Cyd-destun y fantell
Mantell aur Yr Wyddgrug yw un'r campweithiau gorau o grefftwaith aur o'r Ewrop gynhanesyddol. Heddiw, mae'n un o drysorau casgliadau'r Amgueddfa Brydeinig sy'n helpu i adrodd hanes y byd ac sy'n destun mwynhad i filiynau o ymwelwyr. Mae'n wrthrych eiconig sy'n cysylltu Cymry heddiw â'u gorffennol hynafol.

Darganfyddiad 1833
Cafodd mantell aur Yr Wyddgrug ei darganfod ar 11 Hydref 1833 ym Mryn yr Ellyllon, ar gyriuon dwyreiniol Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Wrth i weithwyr lenwi pwll gro ar ymyl ffordd daeth gwrthrych aur yr oedd yn deilchion i'r golwg ymhlith y cerrig. Cafodd y fantell aur ei darganfod mewn bedd carreg, crwn o gwmpas olion sgerbwd dynol nad oedd wedi goroesi'n dda iawn. Cafodd llawer o leiniau ambr eu darganfod hefyd, wedi'u gosod mewn rhesi ar y fantell, a darnau o frethyn, wedi'u clymu i'r fantell o bosib, ond ni oroesodd y rhain.

Adluniad gan Tony Daly o'r darganfyddiad ym 1833
Roedd y bedd o dan garnedd gron o gerrig, neu tumulus. Roedd y domen yn fawr (28 metr o ddiametr) a byddai'r gwaith o'i hadeiladu wedi bod yn llafurus. Cafodd y newyddion cyffrous am y darganfyddiad a'r amgylchiadau ei ledaenu trwy ofal y Parchedig Charles Butler Clough, ficer Yr Wyddgrug. Roedd ei adroddiad manwl ef yn un rhan bwysig o'r erthygl gyntaf i'w chyhoeddi am y darganfyddiad.

Er i rai o'r darnau o eurddalen a gwrthrychau eraill fynd ar goll neu gael eu gwahanu, cafodd y rhan fwyaf eu caffael gan yr Amgueddfa Brydeinig ym 1836. Yn ogystal â'r darnau aur, mae gwrthrychau eraill o'r bedd wedi goroesi hefyd gan gynnwys rhan o gyllell efydd, stribedi cefnu efydd ac un glain ambr.

Darlun o'r gorsled aur o adroddiad John Gage am y darganfyddiad yng nghofnodolyn Archaeologia, 1836

Enw'r garnedd gladdu yw Bryn yr Ellyllon, sef bryn y bwganod neu goblynnod. Mae cyfoeth o chwedlau a llên gwerin yn gysylltiedig â'r bryn. Yn ôl un hanes, gwelwyd ysbryd euraidd dyn anferth yn sefyll ar y bedd. Medd eraill y gwelwyd ysbryd bachgen wedi'i wisgo mewn aur ar bwys y twmpath.

"Mae'r man y cafodd ei ddarganfod ar fanc gro bychan, y mae llawer ohonynt i'w cael wrth ymyl afon Alun, yn nyffryn yr Wyddgrug …" Dyfyniad o lythyr y Parch Clough, Archaeologia, 1836.

O gorsled Brydeinig i fantell defodol
Adeg darganfod mantell aur Yr Wyddgrug, penderfynwyd mai corsled neu ddwyfronneg pennaeth Prydeinig ydoedd. Roedd rhai hyd yn oed o'r farn mai bedd Benlli Gawr ydoedd, sef un o dywysogion canoloesol chwedlonol Powys.

Adluniad ar ffurf mantell, 1953
Adluniad o'r fantell ar ffurf corsled


















Gwnaed gwaith ymchwil newydd yn y 1950au a deallwyd mai mantell ddefodol oedd y darnau aur. Sylweddolodd yr archaeolegydd Terence Powell, trwy ei waith gyda Brian Hope-Taylor, ei bod yn gwneud mwy o synnwyr taw efelychu gleiniau yn gorchuddio'r ysgwyddau oedd cromlin yr eurddalen a llinellau llifeiriol y dyluniad. Llwyddodd Powell i ddod o hyd i agweddau tebyg ar wrthrychau aur Ewropeaidd eraill hefyd gan ei arwain i awgrymu bod y fantell yn dyddio o'r Oes Efydd Ganol. O ganlyniad i'r syniad newydd hwn, gwnaed adluniad o'r fantell gan yr Amgueddfa Brydeinig yn ystod y 1960au ac, yn fwy diweddar, yn 2002.
Adluniad o'r ail fantell bosibl, gyda'r darnau aur a oroesodd
Y gwisgo a'r gwneud
Fyddwn ni byth y gwybod pwy oedd y crefftwr a greodd y fantell. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn grefftwr heb ei ail a oedd yn rhan o draddodiad gweithio aur boglynnog oedd a'i wreiddiau ym Mhrydain ac Iwerddon. Erbyn hyn, credir i'r fantell gael ei chreu yn ystod yr Oes Efydd Gynnar (tua 1900-1600 CC).


Doedd yr holl ddarnau o eurddalen yn y bedd ddim yn rhan o'r fantell. Mae eu dyluniad dipyn yn symlach, ac awgrymwyd yn ddiweddar y gallent fod yn rhan o ail fantell, gynharach fyth. Mae cofnod o'r ail ganrif ar bymtheg yn awgrymu y cafwyd hyd i fantell aur bosibl gerllaw.

Er nad oes yr un asgwrn o Fryn yr Ellyllon wedi goroesi, mae'r gwrthrychau yn y bedd – y mentyll, y mwclis gleiniau ambr a'r darn o gyllell efydd – yn awgrymu taw dynes, a hithau'n ddynes o gryn bwys, fyddai wedi gwisgo'r fantell.

"… darn o hanes a ganfuwyd nid nepell o Wrecsam tua dwy fluynedd yn ôl; sur ydoedd, megis corsled swyddog." Llythyr gan Richard Mostyn at yr hynafiaethydd o Gymro, Edward Lhuyd, dyddiedig 28 Chwefror 1694.

Cyd-destun y fantell – teyrnas ddefodol yn y gogledd ddwyrain
Trwy arolwg archaeolegol, gallwn weld fod nifer anarferol o uchel o henebion defodol Neolithig (tua 3400-2300 CC) a thomenni claddu mawr o'r Oes Efydd Gynnar (tua 2300-1500 CC) yn nyffryn afon Alun ac ar lwyfandir gogledd Sir y Fflint.

Yn dilyn archwiliad archaeolegol, mae dau safle yn nyffryn Alun wedi profi i fod yn arbennig o ddiddorol. Yn Llong, 1.5 milltir i'r de ddwyrain o'r Wyddgrug, cafodd heneb gladdu fawr ei chloddio gan Gymdeithas Hanes Sir y Fflint rhwng 1954 a 1956. Roedd mwclis muchudd o'r Oes Efydd Gymmar (tua 2000-1700 CC) wedi cael eu gwasgaru ymhlith cerrig carnedd, dros sgerbwd dynes ar ei chwrcwd. Archwiliodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys weddillion heneb gladdu fawr iawn arall ym Mhenrehobin, i'r de o'r Wyddgrug, yn 2010. Roedd gan yr heneb ffos gron ddofn, 44m o ddiametr. Cafodd golosg o weddillion arch posibl eu canfod y tu mewn i'r heneb, a chawsant eu dyddio trwy ddull radiocarbon i rhwng 2400 a 2130 CC – ychydig yn gynharach na'r beddau gerllaw ym Mryn yr Ellyllon a Llong.

Carnedd y Gop, twmpath anferth o with dyn o'r cyfnod
Neolithig Canol (3400-2800 CC) fwy na thebyg
ar ymyl llwyfandir gogledd Sir y Fflint
Mae arolwg diweddar yn awgrymu bod cymunedau cynhanesyddol ffyniannus wedi byw yn y gogledd ddwyrain, a'u bod yn mynegi'u hunain mewn dulliau diwylliannol unigryw. Roeddent yn rheoli'r gwrthrychau gwerthfawr a fyddai'n cyrraedd ac yn gadael yr ardal: bwyeill carreg a phennau brysgyll; bwyeill metel cynnar, halberdau, cyllyll a dagerau; a gwrthrychau aur, muchudd ac ambr.

Y mwclis o leiniau muchudd a ganfuwyd yn Llong, gyda manylun
Cai gwaith a chyfoeth y cymunedau hyn eu troi at ddibenion ysbrydol. Gallwn awgrymu taw pobl bwysig a grymus fyddai'n gwisgo mentyll a'u bod wrth wraidd canolfan neu ardal ysbrydol oedd wedi hen ennill ei phlwyf.




Metelau a grym: aur Cymreig?
Mae'r fantell wedi'u chreu o tua 700g (1.5 pwys) o aur – y gwrthrych aur trymaf o'r Oes Efydd Gynnar ym Mhrydain. Trwy ddadansoddi'r metel, rydyn ni'n gwybod fod yr aur yn cynnwys lefel uchel o arian, rhan o'i 'lofnod' naturiol siwr o fod.

Roedd casglu cymaint â hyn o aur ynghyd yn dipyn o gamp, ac yn dangos cryn bwer. Mae'n bosib y daeth yr aur o ffynhonnell newydd a chyfoethog gerllaw, ac y cawn wybod yr union leoliad trwy waith ymchwil pellach yn y dyfodol. Efallai iddo ddod o'r nifer fawr o ddyddodiadau mwyn aur yng ngogledd neu orllewin Cymru, pwy a wyr?
Mwynfeydd copr hysbys yr Oes Efydd Gynnar,
ffynonellau posibl mwyn aur yng Nghymru a thaith
y metelau i ardal ddefodol Yr Wyddgrug

Byddai copr a gloddiwyd yn y Gogarth ger Llandudno, ar Ynys Môn ac yn y canolbarth yn pasio drwy'r ardal hon hefyd. Dyma'r mwynfeydd fyddai'n darparu deunydd crai i weithdai castio efydd Prydain, i'w droi'n arfau ac offer hanfodol a gwerthfawr.

Oherwydd eu lleoliad canolog, gallai arweinwyr defodol y gogledd ddwyrain fanteisio i'r eithaf ar daith y metelau drwy eu tiroedd.

Dim ond cymuned greadigol, ffyniannus a chanddi gysylltiadau da fyddai â'r modd a'r uchelgais i greu mentyll defodol tebyg i'r rhai a ganfuwyd ym Mryn yr Ellyllon. Bron i ddwy ganrif ers ei darganfod, mae Mantell Aur Yr Wyddgrug yn dal i'n diddori a'n hysbrydoli gan roi cipolwg gwerthfawr i ni ar fywyd yn y Gymru gynhanesyddol.



Dolenni defnyddiol:

I ddysgu mwy am yr amgueddfeydd partner a'u casgliadau, ewch i:

www.amgueddfacymru.ac.uk

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

www.britishmuseum.org

I ddarganfod mwy am archaeoleg Oes Efydd Cymru, ewch i:

www.archwilio.org.uk

www.coflein.gov.uk

www.finds.org.uk (Saesneg yn unig)



The Mold Cape … a unique ceremonial gold cape
Bronze Age, about 1900-1600 BC
From Mold, Flintshire, North Wales

Workmen quarrying for stone in an ancient burial mound in 1833 found this stunning gold object which remains unparalleled to this day. The mound lay in a field named Bryn yr Ellyllon (the Fairies' or Goblins' Hill). At the centre was a stone-lined grave with the crushed gold cape around the fragmentary remains of a skeleton. Strips of bronze and quantities of amber beads were also recovered, but only one of the beads ever reached the British Museum.

The cape would have been unsuitable for everyday wear because it would have severely restricted upper arm movement. Instead it would have served ceremonial roles, and may have denoted religious authority.

The cape is one of the finest examples of prehistoric sheet-gold working and is quite unique in form and design. It was laboriously beaten out of a single ingot of gold, then embellished with intense decoration of ribs and bosses to mimic multiple strings of beads amid folds of cloth. Perforations along the upper and lower edges indicate that it was once attached to a lining, perhaps of leather, which has decayed. The bronze strips may have served to strengthen the adornment further.

The fragile cape broke up during recovery and the pieces were dispersed among various people. Although the British Museum acquired the greater proportion in 1836, small fragments have come to light intermittently over the years and have been reunited. Later detailed study and restoration revealed the full form of the cape, which at one time had been interpreted as a petrel (chest ornament) for a horse. It also became apparent that a second, smaller object in matching embossed style was present in the grave.

Restoring the cape
Before it was restored in the 1960s, it was difficult to tell exactly what shape this remarkable object was. It consisted of flattened fragments of thin gold sheet, some large, some small, with cracks, splits and holes all over them. There were also areas missing.

The fragments were laid out flat, with likely joins matched. The largest fragment was from the back of the object. A conservator from the British Museum made an outline drawing, which could be folded up into three dimensions. This gave a shape from which a plastic support could be made and on which the fragments could be arranged.

Some of the repoussé decoration had been flattened while the object was in the ground. The conservator carefully pushed the decoration back into position with a wooden tool. As a result, these areas of gold sheet regained their original curvature. The form of a cape that fitted the shape of a person's shoulders became apparent.

The conservator was now able to reconstruct the cape by joining the gold fragments with a water-soluble polyvinyl acetate (PVAc) adhesive. This was done on a backing of terylene net. As the fragile gold pieces were joined, the cape became unwieldy and had to be supported with an arrangement of specially designed and constructed clamps. Once all the fragments were joined, one large gap remained at the front. The gap was filled with a gilded copper plate, electroformed from part of the pattern. This allowed the cape to stand on its own, but for extra safety it was mounted on a fibreglass and resin support.

Weight: 560g.

Majority purchased; small fragments by gift from Sir W. C. Trevelyan, Bt., J. Evans,
Miss Lewis, F. Potts and C. W. Rogers.

On loan to the exhibition 'Re-Creations', at Wrexham County Borough Museum,
26 September – 17 December 2005.

T. G. E. Powell, 'The gold ornament from Mold, Flintshire, North Wales', Proceedings of the Prehistoric Society, 19 (1953), pp 161-79.

I. H. Longworth, Prehistoric Britain (London, The British Museum Press, 1985),
p. 36, plate 43.

No comments:

Post a Comment