Nid ymladd a wnewch chwi yn ein herbyn ni,
Ond yn erbyn trefn a phwrpas ein Duw ni.
Gwnaeth ein Duw ni bob dyn ar Ei lun a'i ddelw Ei Hun,
A chreu gwryw a benyw i godi teulu.
A gosod dynion i fyw gyda'i gilydd yn gymdeithasau a chenhedloedd;
Dyna drefn naturiol ein Duw ni.
Dewisodd Duw genedl Israel i'w Bwrpas arbennig Ef,
Ac y mae ganddo Bwrpas i bob cenedl arall;
Nid eu dewis a wnaeth ar gyfri eu rhagoriaethau a'u rhinweddau
Rhag iddynt fod yn falch a hynan-gyfiawn,
Ond eu dewis i'w bwrpas Ef Ei Hun; eu dewis
I'w wasanaethu Ef â'u hamrywiol ddoniau.
Un o'r cenhedloedd hyn yw ein cenedl ni.
Cenedl o saint, beirdd, llenorion a cherddorion
Fydd hi; cenedl a ddengys cymeriad Duw yn ei bywyd,
Ewyllys Duw yn ei chymdeithas, a Gras Duw yn ei gweddi a'i gwaith.
Ac fe geidw Duw hi yn genedl i dywallt Ei fendithion arni,
Tra byddo hithau yn ufuddhau i'w Orchmynion Ef.
Ond y mae hi heddiw yn anufudd ac yn anffyddlon Iddo,
Yn anghofio Ei bwrpas; cenedl gyndyn, ddwl, fydol.
Ond fe ddewisodd Duw weddill bychan ohoni,
Rhai wedi eu dewis ganddo cyn eu geni,
I'w harwain; Illtud ym Mro Morgannwg,
Teilo yn Llandâf, Cadog yn Llancarfan,
Padarn yng Ngheredigion, Cyndeyrn yn Llanelwy,
A Chybi ym Môn. Duw a'u cododd hwy oll.
Ac ymhob argyfwng arall yn ei hanes hi
Fe gyfyd Ef weddill; gwyr a gerdd gyda Duw.
Ac o gerdded a gâr gyfiawnder, rhyddid a chydweithrediad;
Ond fe gânt eu pardduo, eu henllibio, eu herlid a'u newynu,
Ond fe geidw Duw'r genedl er eu mwyn hwy.
A phe concrech chwi â'ch gallu milwrol ein cenedl ni,
Fe welai'r gweddill yn y caethiwed ogoniant eu Duw,
Ei drugaredd, Ei faddeuant, Ei farn, Ei gosb a'i waredigaeth.
Y mae pob Pharo yn codi rhyw Foses.
No comments:
Post a Comment