25.9.13

Cofio Theo

Teyrnged gan Elin Llwyd Morgan i'w thad-yng-nghyfraith,
Theo Davies, y saer a chrefftwr, Glyn Ceiriog

Ddiwedd mis Mai, bum i a'm cymar yng nghynhebrwng mam cyfaill i ni. Angladd Gatholig oedd hi, yn Tile Hill, maestref yng ngorllewin Coventry a anfarwolwyd yn lluniau paent model Airfix yr artist lleol George Shaw, a nenwebwyd ar gyfer Gwobr Turner ddwy flynedd yn ôl.

Hoffais Coventry yn arw er gwaetha'r glaw, a mwynheais yr angladd a'r cwmni er gwaetha'r amgylchiadau trist. Fel ein cyfaill, roedd yna rywbeth hynod o glên a dirodres am y ddinas a'i phobl, ac roedd gan y ddau ohonom ryw fath o gysylltiad â'r lle.

Bu fy nhaid yno yn diffiwsio ffrwydron (sef ei waith yn y chwarel) ar ôl Blitz Tachwedd 1940, pan fomiwyd y ddinas gan y Luftwaffe gan ladd dros 500 o bobol a dinistrio dwy ran o dair o adeiladau'r ddinas, gan gynnwys yr hen gadeirlan. A bu ewyrth i'm cymar yn gweithio i gwmni moduron Triumph yn ystod twf diwydiannol rhyfeddol y ddinas o'r 50au i'r 70au.

Fis yn ddiweddarach, roedd angladd arall ar ein gwarthaf wedi i'm tad-yng-nghyfraith farw ar ôl brwydr fer ond lew yn erbyn niwmonia.

Er bod Theo yn 87, roedd yn sioc enbyd i ni i gyd ac yntau'n dal yn rhyfeddol o sionc a heini. Dim ond deuddydd cyn iddo fynd i'r ysbyty, bu'n farneisio bar cefn newydd Y Dderwen – tafarn sydd ar fin ailagor fel menter fusnes lleol – a doedd dim llawer yn ôl ers i mi ei weld ar ben to ei dy yn brwsio mwsog oddi arno, a'i sigaret arferol yn ei geg.

Brodor o Nantyr, Dyffryn Ceiriog, oedd Theo, a fwriodd ei brentisiaeth fel saer olwynion cyn mynd ymlaen i fod yn saer coed (er iddo golli dau fys ar ôl damwain â llif) a sefydlu ei gwmni ei hun. Ymhlith ei ddodrefn crefftus yr oedd cadeiriau eisteddfodol (fel un Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1991) ac yr oedd hefyd yn atgyweiriwr heb ei ail. Ef a sefydlodd Grefftau Ceiriog yn y 70au, ar y cyd â dau o'i gyfeillion bore oes, Idris Davies ac Islwyn Ffowc Elis.

Theo, ar y cyd ag uned anafiadau cefn Ysbyty Orthopedig Gobowen, a ddatblygodd yr Oswestry Frame arloesol, sef ffrâm sefyll ar gyfer pobol wedi'u parlysu. Erbyn hyn, cynhyrchu offer meddygol y mae Theo Davies a'i Feibion yn bennaf, a'r cynnyrch hwnnw'n cael ei ddosbarthu i bob cwr o'r wlad o'r gweithdy (hen felin wlân) ym mhentref Glyn Ceiriog.

Dyn ei filltir sgwâr oedd Theo. Er hynny, nid 'country lump' mohono (fel y galwai ambell greadur go wledig!) ond ffigwr trwsiadus oedd yn torri cyt yn ei siwtiau a'i hetiau. Roedd yn briod â Sydney ers dros hanner can mlynedd, y ddau'n gymeriadau unigryw a weddai i'w gilydd i'r dim. Roedd yn aelod brwd a blaenllaw o Ymddiriedolaeth Trên Bach y Glyn – trên a arferai redeg ar hyd y dramffordd a gysylltai'r chwareli llechi o gwmpas Dyffryn Ceiriog – sydd wrthi'n creu canolfan dreftadaeth yn hen sied injan y trên yn y pentre.

Roedd yna rywbeth cynnes a diniwed iawn am Theo. Roedd bob amser yn groesawgar a chymwynasgar, yn daid arbennig i'w naw o wyrion, â'r berthynas rhyngddo a'm mab Joel yn arbennig o glos (a'r ddau ohonynt yn hoff iawn o'u cynefin ac yn hoffi cadw at drefn feunyddiol).

Fel perffeithydd, tybiai'n aml mai fo wyddai orau – reit debyg i gymeriad 'You don't wanna do it like that!' Harry Enfield ar brydiau – a byddai diwrnod braf o eistedd yn yr ardd yn siwr o gael ei ddrysu gan Theo yn chwarae hefo strimar drws nesa!

Yn awr ei fod wedi mynd, bydd yr hiraeth amdano yn fwy llethol na swn unrhyw strimar. Ond cafodd fywyd da, ac fe fu farw'n gyflym a di-boen. Fel hyn, fe gawn ei gofio fel yr oedd, yn fythol ffit ac ifanc ac yn gymeriad ar ei ben ei hun.

Cyhoeddwyd yn Barn, Gorffennaf/Awst, 2013

No comments:

Post a Comment