Llythyr a ymddangosodd yn Y Casglwr, dyddiad ??
Diddorol iawn oedd y rhifyn diwethaf o'r Casglwr a chefais fwynhâd mawr o ddarllen ysgrif Dewi Jones ar 'Wil Boots'. Wrth ddarllen y rhan olaf o'i ysgrif lle dywed Dewi sut y cyfarfu Wil a'i ddiwedd ar y mynydd ac iddynt ddod 'o hyd i'w gorff yn ddiweddarach yng ngwaelod rhigol serth ar Glogwyn y Garnedd,' atgoffwyd fi o'r nodyn canlynol a ddeuthum ar ei draws mewn hen newyddiadur. Efallai y bydd o ddiddordeb i Dewi a'r darllenwyr.
'Pan oedd y diweddar Gwilym E. Powell (Gwilym Eryri), Milwaukee, Wisconsin, yn gweithio yng Nghwaith Mwyn yr Wyddfa, y darfu i'r llysieuydd uchod a elwid ar lafar gwlad fel 'Wil y Boots', golli ei fywyd tra yn dringo un o gwterydd (gulleys) Clogwyn y Garnedd, neu yn hytrach disgyn ar hyd-ddi, pryd y torrodd ei raff a syrthiodd i ddyfnder mawr. Bu ei gorff heb ei ddarganfod am bum wythnos, a Gwilym Eryri a Wm. Rowlands, Pentre Castell, Llanberis, a ddaeth o hyd iddo, ac adnabyddid y gwter honno hyd 1918 fel 'Cwter Wil y Boots', neu 'Gulley Wil y Boots'.
Deallaf mai 'cwter' yw'r hen enw ar rigol o'r math yma, sef 'gulley' y Saeson. Wrth gwrs, ceir nifer ohonynt ar glogwyni Eryri, megis 'Cwter Fawr', sydd nid ymhell o'r uchod. 'Cwter Wil Ellis', 'Cwter Ogof Arhur' ar y Lliwedd, ac amryw eraill.
Mae hanes diddorol ynglyn â mwynwyr hen with Copr yr Wyddfa yn dringo Cwter Ogof Arthur, ond stori at rhyw dro arall yw honno. Mae'n resyn o beth and yw enwau'r 'cwterydd' yma, a llawer lle arall o ran hynny, ar y mapiau O.S., onid ydyw?
Steffan ab Owain,
Tanygrisiau.
Dyma ateb Dewi Jones …
Marwolaeth Wil Boots
Gyda golwg ar nodyn Steffan ab Owain yn rhyfyn diwethaf Y Casglwr credaf mai da o beth fuasai i mi ychwanegu ychydig o ffeithiau ynglyn â marwolaeth William Williams and oedd ofod ar eu cyfer yn fy erthygl flaenorol.
Gwelais innau'r cyfeiriad mewn hen newyddiadur sydd yn honni i gorff Wil fod allan ar y mynydd am bum wythnos heb ei ddarganfod, ond hollol anghywir yw'r stori hon rwy'n ofni.
Ceir dyddiad y ddamwain, sef y 13 o Fehefin, ar garreg ei fedd, a hefyd yn yr amryw adroddiadau a ymddangosodd mewn cylchgronnau llysieuol a newyddiaduron a gyhoeddwyd o fewn pythefnos i'r digwyddiad – Y Times yn eu plith.
Wrth archwilio Llyfr Cofrestru Angladdau plwyf Llanberis am 1861, gwelir mai ar y 16 o Fehefin y'i claddwyd. Dengys iddo felly gael ei gladdu dridiau wedi'r ddamwain.
Mae'n eithaf posib i Gwilym E. Powell (Gwilym Eryri) fod ymhlith y rhai a ddaeth o hyd i'r corff. Ugain oed a fuasai ar y pryd a bu'n gweithio ym Mwynfeydd Copr Eryri, yn Dywysydd i'r Wyddfa, ac am gyfnod bu un o'r cytiau a adeiladwyd i gyfarfod ag anghenion ymwelwyr dan ei ofalaeth.
Yr oedd William Williams yn enedigol o Bron Farig ger Rhuthun, a byddaf yn meddwl yn aml beth yw hanes yr hen le erbyn heddiw. Tybed a all un o ddarllenwyr Y Casglwr fy ngoleuo?
Mae'n wir fod yr enwau Cymreig ar gwterydd y clogwyni wedi diflannu, ond maent yn parhau yn lloches i'r planhigion alpaidd prin fu'n denu cenedlaethau o fotanegwyr i'w hedmygu (a'u dwyn) dros y blynyddoedd. Gosodwyd carreg wen ar ben un o'r rhain lawer blwyddyn yn ôl. Dyma 'ddi-lythyren garreg goffa' William Williams, yr enwog 'Botanical Guide'.
Dewi Jones,
Dyffryn Nantlle.
No comments:
Post a Comment