21.8.13

Anheddiad canoloesol Cwm Brwynog

Erthygl wreiddiol (yn y Saesneg) gan Dr Kathryn Roberts, Cadw, Mehefin 1999

Anfonwyd i mi gan Ken Jones, Llanberis

Dyma enghraifft fawr, sydd mewn cyflwr da, o anheddiad tir uchel gwledig cymhleth sydd, mae'n debyg, yn perthyn i'r Oesoedd Canol. Ategir hyn gan gyfeiriad yng Nghofnod Caernarfon 1352 sy'n cyfeirio at hafodai yn "Crombroinock". Mae'n o debyg mai dyma'r anheddiad y cyfeirir ato.
     Cafodd yr anheddiad ei gofnodi gan y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ym 1960. Canfuwyd saith adeilad, mewn dau grwp ar wahan. Roedd y grwp uchaf yn cynnwys pedar cwt a'r grwp isaf dri chwt, wedi'u hadeiladu ar lwyfannau ar ochr orllewinol y dyffryn rhwng dwy o lednentydd afon Arddu. Yn ogystal, mae'n ymddangos bod y banciau sydd ar y safle yn amgylchynu tir caeedig sydd, mae'n debyg, yn perthyn i'r un cyfnod a'r aneddiadau.
     Yn dilyn ymchwiliadau diweddarach, canfuwyd rhagor o olion adeiladau, dau ohonynt ychydig islaw'r rhai a gofnodwyd gan y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru (RCAHM), yn ogystal â llwyfannau llai amlwg a chysgodfan neu gorlan anifeiliaid bychan. Mae'n ymddangos bod rhai o'r adeiladau wedi'u hailadeiladu neu eu hail ddefnyddio, a gallai'r gwahaniaethau yng nghyflwr yr adeiladau a'r dulliau adeiladu awgrymu bod yr anheddiad wedi ei ddefnyddio dros gyfnod maith, ac wedi'i adeiladu ar adegau gwahanol. Mae'n anodd gwybod a oedd yr anheddiad yn cael ei ddefnyddio gydol y flwyddyn neu fel hafod yn unig.
     Mae cofnodion presennol yr anheddiad yn rhestru 11 o adeiladau sydd wedi'u nodi isod gyda'u rhifau PRN a'u cyfeirnodau grid.

     4044   Cwt hir  SH 5943 5681
     6716   Cwt hir  SH 5939 5684
     6717   Cwt hir  SH 5940 5685
     6718   Cwt hir  SH 5929 5685
     6719   Cwt hir  SH 5941 5682
     6720   Adeilad sgwâr  SH 5931 5684
     6721   Llwyfan ty  SH 5931 5682
     6722   Cwt hir  SH 5931 5680
     6723   Cwt hir  SH 5930 5682
     6724   Cwt hir  SH 5930 5680
     6725   Cwt hir  SH 5941 5680

     *PRN (Primary Record Number)

Cwt hir, PRN* 4044, SH 5943 5681
Dyma'r adeilad mwyaf gorllewinol a'r uchaf. Mae wedi ei leoli ar gefnen fechan gerllaw nant sydd bellach wedi sychu. Mae'n mesur 7.9m x 4.6m ac mae ganddo waliau cerrig cadarn hyd at 0.8m o led. Canfuwyd un fynedfa amlwg yn y wal ogleddol ger y rhan uchaf a mynedfa arall bosib yn y wal ddeheuol yn union gyferbyn. Mae'r fynedfa ogleddol yn wynebu'r nant (sydd bellach wedi sychu).

Cwt hir, PRN 6716, SH 5939 5684
Mae'r cwt hir hwn wedi'i leoli ar waelod llethr rhwng dau geunant ar dir cymharol wastad. Mae'r adeilad yn mesur 7m 6 4.6m (5.3m x 2.8m y tu mewn) ac y mae ar ffurf adeilad bychan un ystafell ar ongl sgwâr i lethr y bryn. Mae'r waliau yn 1m o drwch ac yn cyrraedd uchder o 0.4m. Mae rhai o'r cerrig ar y wal gefn wedi eu gosod ar eu hymylon ac mae'n bosibl na fu'r waliau yn uwch na hyn erioed. Mae mynedfa amlwg 0.7m o led yng nghanol y wal ogleddol sy'n wynebu'r nant. Mae'r wal ddeheuol yn hynod, gyda rhes o gerrig o fewn y wal sy'n awgrymu efallai fod yr adeilad wedi'i ailadeiladu, i greu 'mainc' o bosib? Mae'r cerrig hyn hefyd yn cau'r hyn a oedd efallai wedi bod yn borth yn y wal ddeheuol. Ceir ardal wastad i'r de-ddwyrain o'r cwt, iard fechan neu fan gwaith o bosib.

Cwt hir, PRN 6717, SH 5940 5685
Mae'r cwt hwn, ynghyd â 6718, wedi'i leoli ym mhen gorllewinol yr anheddiad, ar y man isaf, a dyma'r cwt agosaf at afon Arddu. Nid yw'n ymddangos bod 6717 a 6718 wedi'u cofnodi gan y RCAHM. Mae'r cwt yn mesur 8.1m x 4.6m (5.8m x 2.1m y tu mewn) ac mae'r waliau oddeutu 1m o drwch a 0.04m o uchder ar gyfartaledd. Yng nghanol y cwt mae wal o rwbel sy'n ei rannu'n ddwy ystafell. Mae mynedfa sy'n arwain i'r ystafell isaf i'w gweld yn y wal ogleddol. Ceir olion llwyfan neu fainc yn y cerrig adeiladu yn wal ddeheuol yr ystafell isaf neu orllewinol.

Ymhellach i lawr y llethr tua'r gorllewin, rhwng cwt 6717 a chwt 6718, ceir darn o dir amgaeedig hirsgwar sydd â banciau pridd isel ac ar yr ochr ogleddol mae olion waliau. Mae'r tir angaeedig yn mesur tua 5m x 4m ac mae strwythur sgwâr bychan o gerrig sy'n mesur 1m x 1m wedi'i leoli y tu mewn iddo ar yr ochr ddeheuol. Gallai'r olion fod yn weddillion adeliad/ty, a'r strwythur sgwâr o gerrig y lle tân, neu gorlan/gysgodfan i anifeiliaid, neu gafn dwr neu fwyd. Gan fod yr olion yn rhedeg yn gyfochrog a chyfuchliniau'r llethr ac felly ar ongl sgwâr i'r holl adeiladau eraill mae'n debyg mai'r esboniad olaf hwn yw'r un sydd fwyaf tebygol.


Cwt hir, PRN 6718, SH 5929 5685
Mae hwn ym mhen gorllewinol ac isaf yr anheddiad ger y llednant ac yn agos i 6717, ac mae'r darn tir amgaeedig a nodwyd yn nhestun 6717 yn gwahanu'r ddau. Mae'r cwt yn mesur 5.6m x 4.8m ac mae ganddo waliau cerrig sych sydd 0.4m o uchder, ac mae rhai o'r cerrig wedi'u gosod ar eu hymylon. Mae'r corneli'n grwn. Dim ond un fynedfa bosibl a ganfuwyd a hynny yn y wal sy'n wynebu'r gogledd ddwyrain. Ond mae'n anodd bod yn sicr a hynny am nad yw'r bwlch yn fwy na 0.9m.

Cwt hir, PRN 6715, SH 5920 5736
Saif ar gefnen rhwng dwy nant sydd bellach wedi sychu. Mae'r adeilad hwn yn mesur 9.8m x 6.2m, a 7m x 3.8m y tu mewn. Mae'n debyg mai'r bwlch sydd wedi'i leoli yn anghymesur yn y wal ogleddol ym mhen uchaf yr adeilad yw'r brif fynedfa. Efallai fod yna ail fynedfa gyferbyn a hwn yn y wal ddeheuol ond mae'n anodd bod yn sicr. Un rhes o gerrig a ddefnyddiwyd ar gyfer y waliau sy'n 0.3m o uchder ac oddeutu 1.3m o led gyda chorneli crwn. Er nad oes arwydd bod y cwt wedi'i rannu y tu mewn, mae cerrig wedi'u gosod ar hyd y wal ddeheuol, ac mae'n bosibl eu bod wedi eu defnyddio fel mainc. Gerllaw, yn erbyn y wal ddwyreiniol, mae lle tân o bosib.

Strwythur sgwâr, PRN 6720, SH 5931 5684
Mae hwn ychydig yn is i lawr y llethr an chwt 6716 a saif yng nghysgod maen mawr naturiol. Ni chafodd ei gofnodi ar gynllun y RCAHM ym 1960. Mae'n debyg mai cysgodfan yn hytrach na chwt yw hwn ac erbyn heddiw dim ond wal gerrig bychan sydd i'w gweld sy'n mesur 2.5m x 1.1m y tu mewn.

Llwyfan ty, PRN 6721, SH 5931 5682
Mae'r llwyfan pridd bychan hwn yn mesur 4.7m x 2.2m. Ni chafodd ei gofnodi gan RCAHM ym 1960, a hynny mae'n debyg oherwydd ei fod yn ymddangos yn gymharol ddi-nod o'i gymharu â'r cytiau hir sydd ar y safle. Mae'r llwyfan wedi'i dorri i mewn i'r llethr fel ei fod yn codi 0.2m uwch ben y llethr yn y pen isaf ac mae wedi ei dorri i mewn rhyw 0.4m i'r llethr yn y pen uchaf. Mae maen mawr ar ochr de gorllewinol y llwyfan ac mae'r cerrig ar yr ochr ddwyreiniol yn awgrymu bod adeilad wedi sefyll yno ar un adeg. Mae GAT (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd) wedi awgrymu bod rhai o'r cerrig o bosib yn ffurfio lle tân sy'n mesur 0.7m x 1m ond nid yw hyn yn arbennig o amlwg.

Cwt hir, PRN 6722, SH 5931 5680
Mae'r cwt hwn yn un o'r rhai grwp isaf. Mae'r adeilad yn mesur 5.9m x 2.8m a 4.1m x 1.2m y tu mewn. Mae cerrig mawr yn y waliau ac mae'n bosib bod y tu mewn wedi ei rannu ond nid yw hyn yn arbennig o amlwg.

Cwt hir, PRN 6723, SH 5930 5682
Dyma un o'r cytiau mwyaf yn yr anheddiad ac mae'n mesur 10.2m x 5.4m. Mae arwynebau allanol a mewnol i'r wal gerrig ac mae olion strwythurau mewnol, gan gynnwys y lle tan o bosibl. Er hynny gallai'r strwythur o gerrig sydd i'w weld yng nghornel gorllewinol y cwt fod wedi ei ychwanegu yn ddiweddarach.

Cwt hir, PRN 6724, SH 5930 5680
Mae'r cwt hwn yn un eithaf garw. Yn wahanol i amryw o'r adeiladau eraill nid oes yma arwyneb o gerrig, yn hytrach mae yna linellau trwchus o rwbel o hyd at 1.2m o uchder ac nid oes unrhyw fynedfa glir i'w gweld. Mae'r cwt yn mesur 8.8m x 5.3m ond oherwydd trwch sylweddol y deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y waliau, 6.2m x 2.2m yn unig yw arwynebedd mewnol y cwt.

Cwt hir, PRN 6725, SH 5941 5680
Un o'r cytiau sy'n perthyn i'r grwp uchaf. Mae gan y cwt hirsgwar hwn waliau sydd yn 1m o led a hyd at 0.3m o uchder, ond yn gyffredinol maent yn is na hynny. Mae dau ran i'r cwt sydd wedi ei rannu gan wal gerrig isel. Fel y dengys bras gynllun GAT mae nifer o gerrig rhydd y tu mewn i'r cwt, yn erbyn y waliau. Gallai'r rhain fod yn olion rhyw fath o fainc fewnol neu wal sydd wedi dymchwel. Beth bynnag, mae'n debygol y byddai'r tir o dan y cerrig hyn wedi ei ddiogelu a gallai fod o ddiddordeb archaeolegol sylweddol.

Cyfieithiad yw'r uchod o adroddiad gan Dr Kathryn Roberts, CADW, Mehefin 1999.

Fy mwriad ydi ymweld â'r safle a thynnu rhywfaint o luniau … rywbryd!

Linc perthnasol i Gwmbrwynog …

http://www.megalithic.co.uk/article.php?sid=2146412676

http://www.rcahmw.gov.uk/media/308.pdf (gweler 3.3.6)

http://llysmenai.org/penceunant/





No comments:

Post a Comment