21.8.13

Llwybrau plwyf Llanberis

Archwiliad gan Ken Jones (Mai – Gorffennaf 2000 - 2012) o 51 o lwybrau'r Plwyf.

1. Cwmaelhir – Tyddyn Arddu a Chapel Hebron
Er bod arwyddbost ar y briffordd A4086 prin yw'r olion mewn rhai mannau o'r llwybr hyd at y prif lwybr o Lanberis i gopa'r Wyddfa ger Tyddyn Arddu. Prif bwrpas y llwybr yma oedd mynedfa o ardal Pentre Castell i Waun Cwmbrwynog ac yn enwedig i Gapel Hebron. Gosodwyd dwy gamfa i groesi'r rheilffordd islaw a gorsaf Hebron rhai blynyddoedd yn ôl a dyma bellach yw'r unig arwydd i ddangos bodolaeth y llwybr.
     Crewyd y llwybr yma i Gapel Hebron gan breswylwyr Cwm Aelhir Uchaf yn yr 1840au a chyfeirir ato fel Llwybr Capel gan hen drigolion Cwmbrwynog.
     Gosodwyd camfa newydd gan Awdurdod y Parc yn ystod 2008. Gwnaed gwaith atgyweirio a thacluso yn ystod mis Mawrth 2009. Gosodwyd arwyddion ar byst yma a thraw.
     "Bad" … disgrifiad J E Owen Jones, Clerc y Cyngor Sir yn ei archwiliad, 29/04/1958.

2. Capel Hebron – Helfa Fawr
Y llwybr mewn cyflwr eithaf derbyniol er mai ychydig ddefnydd sydd yn cael ei wneud y dyddiau hyn. Y ddwy bont dros afonydd Arddu a Maesgwm mewn cyflwr da.

3 a 4. Brithdir – Cae Newydd
Gan fod y ddwy fferm, sef Brithdir a Chae Newydd bellach yn adfeilion, symudwyd cychwyn y llwybr i bwynt tua 200 llath yn uwch i fyny'r ffordd yn ystod y 70au. Mae'r llwybr yn cychwyn ger mynyediad i Fwlch Maesgwm ac yna yn dilyn i bont afon Waun ger Cae Newydd. Mae'r rhan yma o'r llwybr mewn cyflwr da ac yn gysylltiad gwell i Lwybr 7.
Gosodwyd dwy gamfa a gwnaed gwaith cynnal a chadw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
     Gwaith atgyweirio canmoladwy iawn wedi cymryd lle gan y Parc Cenedlaethol yn ystod mis Tachwedd 2007. Ail agorwyd y llwybr gwreiddiol gan staff y Parc yn ystod Gwanwyn 2012. Gosodwyd giât newydd ger Brithdir a gosodwyd arwyddbyst hyd at bont Cae Newydd.
     "Bad and untraceable most of the way" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

4a. Brithdir – Cae Newydd – i Helfa Fawr a Helfa Fain
Ychydig o olion y llwybr sydd i'w weld bellach. Prin iawn yw'r defnydd ond serch hynny mae modd ei groesi gan fod ansawdd y tir wedi gwella gan i'r tirfeddiannwr agor nifer o ffosydd yn ddiweddar a gosodwyd camfa ger Helfa Fawr.
     "Bad and untraceable most of the way" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

5 a 6. Cae Newydd – Gorsaf Hebron
Mae'r llwybr mewn cyflwr boddhaol iawn. Agorwyd ffosydd bob ochr i'r llwybr mewn mannau gan y tirfeddiannwr. Newidiwyd cwrs y llwybr drwy ddefnydd ger mynedfa Cae Newydd ac mae bellach yn arwain yn syth at bont Cae Newydd.
     "Fair" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

7. Pont Hwch – Pen y Ceunant
Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr mewn cyflwr rhagorol gan gynnwys pont Afon Waun. Gosodwyd ffens ger ffordd Maesgwm a chodwyd camfa yno. Mae rhan o'r llwybr rhwng ffordd Maesgwm a Phont Afon Waun yn tueddu i fod yn gorslyd ar adegau oherwydd ffurf a lleoliad y tir.
     Gwaith atgyweirio canmoladwy iawn o'r bont hyd at y rheilffordd wedi cymryd lle gan y Parc Cenedlaethol yn ystod mis Chwefror 2010. Gosodwyd dwy giat newydd ger Afon Hwch.
     "Paths and gates in fair condition" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

8 a 9. O'r briffordd ger Pentref Castell i Ben y Ceunant
Yn dilyn gwaith cynnal a chadw diweddar mae ansawdd y llwybr yma bellach yn dda iawn. Serch hynny mae angen trin ffos fechan ger Pen y Ceunant.
     "Untraceable" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

10 ac 11. Tan y Dderwen i'r briffordd ger Glandwr ?????

12 a 14. Tyddyn Siarl i'r Waterfall
Angen gwaith cynnal a chadw ar y grisiau ger Tyddyn Siarl ac mae angen ailosod giât haearn yn yr un man. Gosodwyd giât haearn ger llwybr Pyllau Dwr. Gwneir cryn ddefnydd o'r llwybr yma.
     "Good" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

13. Blaen Ddol i Fur Mawr
Erbyn heddiw y mae'r ffordd yma wedi ei hwynebu'n bwrpasol ar gyfer defnydd ceir ac mewn cyflwr derbyniol.
     "No comment" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

15. Hafod Lydan i Byllau Dwr
Gosodwyd dwy giât newydd a phont fechan ger mynedfa Hafod Lydan ar gost y ffermwr. Codwyd waliau a gwnaed gwaith tacluso yn ddiweddar. Mae angen gwaith cynnal a chadw a thrin ffosydd tua chan llath oddi wrth Mur Mawr.
     Gwnaed gwaith gwirfoddol a chanmoladwy dros ben ar y rhan o'r llwybr o Pyllau Dwr i ran o'r llwybr rhwng Hafod Lydan a Mur Mawr gan Steve Wagg o Pyllau Dwr.
     "Gates and paths in fairly good condition" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

16. Mur Mawr i Hafod Uchaf
Gosodwyd dwy giât haearn newydd ger Hafod Lydan gan y ffermwr yn ystod 1997. Mae'r llwybr mewn cyflwr eithaf da ond mae angen gwaith cynnal a chadw yma a thraw.
     "Good" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

17. Ffordd Ty Du i Ffordd Maenllwyd
Mae'r llwybr yma yn bwynt pwysig fel mynedfa o Ffordd Ty Du i Ffordd Maenllwyd. Mae angen gwaith cynnal a chadw mewn mannau ac angen camfa newydd ger Ty Du. Roedd yn anodd dilyn cwrs y llwybr mewn mannau oherwydd tyfiant.
     Gwnaed gwaith cynnal a chadw derbyniol iawn yn ystod 2004.
     "Untraceable as far as Ty Newydd; all gates and stiles in good condition" …
     J E Owen Jones, 29/04/1958.

18. Bron Eryri i Lwyn Celyn
Gall y llwybr fod yn eithaf pwdlyd ar brydiau gan fod y ffermwr yn gwneud defnydd llawn o'r ddau gae ar bob tu i'r Afon Goch. Mae modd ei ddefnyddio heb unrhyw rwystr.
     "Well defined throughout; all gates and footbridge in good condition" …
     J E Owen Jones, 29/04/1958.

19. Allt Goch Ceunant i Ffordd Llwyn Celyn
Gosodwyd giât ac arwyddbost ger Ffordd Maesgwm ond prin iawn yw'r defnydd a wneir o'r llwybr bellach. Nid yw'n bosib croesi'r afon yn ystod llifogydd.
     "Very fair" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

20. Llainwen Uchaf i Ffordd Coed Mawr
Llwybr yn mesur tua 100 llath mewn cyflwr boddhaol.

21. Ceunant Coch i Byllau Dwr
Nid les unrhyw olion o'r llwybr yma bellach.
     "Path untraceable" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

22. Llainwen Uchaf i Ffordd Ty Du
Mae'r llwybr yma mewn cyflwr eithaf boddhaol ac yn cael ei ddefnyddio yn rheolaidd. Mae'n ymuno a llwybr 17 tua chan llath i gefn Coed Mawr.
     "Well defined as far as Llwyndyrus" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

23. Llwyn Dyrus i Ffordd Ty Du
Mae rhan helaeth o'r llwybr yma mewn cyflwr rhagorol. Mae angen trin ffosydd ger y fynedfa i Ffordd Ty Du.
     "Well defined throughout; all gates in good condition" …
     J E Owen Jones, 29/04/1958.

24. Stryd Warden i'r briffordd ger Bryn Gwyddfan
*Ni wnaed arolygiad o'r llwybr yma.
     "Very good as far as Min y Coed. 20 years w/o until about July 1950 when tenant of Min y Coed obstructed the right of way by means of a locked gate" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

25. Ffordd Ty Du at ffin y Plwyf
Mae'r llwybr bellach mewn cyflwr eithaf boddhaol ac yn arwain trwy ran o domennydd chwarel Glyn Rhonwy.
     "Very bad" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

26. Stryd Warden i Ynys Wen
Methwyd yn llwyr a chanfod y llwybr yma. Deallwn ei fod wedi cau pan wnaethpwyd yr archwiliad diwethaf yn 1950. Nid wyf yn gyfarwydd a'r ardal yma.
     "Very bad" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

27. Ffordd Maenllwyd at gopa Dinas
Mae'r llwybr mewn cyflwr derbyniol ac yn rhan o'r ffordd fynydd o Lanberis i'r Waunfawr. Mae giât fechan bwrpasol yn arwain i'r mynydd ond prin iawn yw'r defnydd y dyddiau hyn.
     "Fair" … J E Owen Jones, 29/04/1958.

28. Ffordd Maenllwyd at Ffordd Llwyn Celyn
Mae'r llwybr mewn cyflwr boddhaol ac nid oes unrhyw rwystr arno.
     "Fair 50 years w/o tendency of owner to lock F G near Cae'r Frân Farm" …
     J E Owen Jones, 29/04/1958.


29. ???????????????????


30. Bythynnod y Faenol i gopa'r Wyddfa
Mae'r llwybr bellach yng ngofal y Parc Cenedlaethol ac mewn cyflwr boddhaol.
     "Very bad 60 years w/o" …
     J E Owen Jones, 29/04/1958.

31. Capel Rehoboth i'r Twll Du
Deallwn fod y llwybr yma yn dilyn Afon Dudodyn i'r bwlch rhwng mynyddoedd y Garn a'r Elidir. Mae mewn cyflwr da hyd at y bont sydd yn arwain i gopa Elidir. Torrwyd llwybr answyddogol i gopa Elidir dros y blynddoedd ac mae cryn ddefnydd arno'r dyddiau hyn.

32. Capel Rehoboth i ffiniau Landdeiniolen
Hen fynedfa i Chwarel Dinorwig i hogiau'r Nant. Llwybr lled dda er ei fod yn tueddu i fod yn wlyb mewn mannau.

33. Tir Coch i ffiniau Llandegai
Llwybr o'r briffordd i Llwyn Bedw mewn cyflwr da. Y gweddill o'r llwybr mewn cyflwr boddhaol. Prin iawn yw'r defnydd o'r llwybr yma.

34. O Swyddfa Bost Nant Peris i'r briffordd ger Chwarel Gallt y Llan
Y llwybr mewn cyflwr da iawn. Newidiwyd cwrs y llwybr yma yn ystod gwaith adeiladu Gorsaf Bwer Dinorwig.

35. Llwyn Bedw i Stamps
Rhan o'r llwybr wedi diflannu'n llwyr oherwydd diffyg defnydd. Y llwybr sy'n arwain i Hen Bont Stamps mewn cyflwr da.

36. Pont Peris i ffiniau Llanddeiniolen
Gwnaed gwelliannau sylweddol i'r llwybr yn ystod adeiladu Gorsaf Bwer Dinorwig.

37. Carreg Wen i'r Fron
Hen adfeilion Carreg Wen bellach wedi diflannu yn ystod gwaith Dinorwig. Prif bwrpas y llwybr oedd cysylltu'r ddwy fferm. Mae rhan o'r llwybr ger y Fron yn gerddadwy ond y gweddill wedi diflannu oherwydd diffyg defnydd.

38. Gardda Bach i Gardda
Mewn cyflwr da iawn.

39. Pont Ty Isaf i'r briffordd yn ymyl Tan y Dderwen
???????

40. Pant y Fron i Bryn Glas
Boddhaol ar hyd y llwybr sy'n croesi'r bont islaw hen fferm Ceunant. Prin iawn yw'r olion oherwydd diffyg defnydd.

41. Gardda Bach i Fron Rhedyn
Boddhaol hyd at Fron Wydr ond nid oes oilon o'r llwybr bellach.

42. Tir Coch i Fron Wydr
Heb ei archwilio.

43. Ty'n yr Aelgerth i ffiniau Betws Garmon
Boddhaol, er gwnaed difrod gan dir-lithriad uwchben Ty'n yr Aelgerth yn ystod gaeaf 1999-2000. Gwnaed gwaith sylweddol ar y llwybr gan y Parc Cenedlaethol dros y blynyddoedd. Llwybr poblogaidd iawn sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson trwy gydol y flwyddyn. Gwaith atgyweirio da iawn wedi ei wneud yn ystod mis Mawrth 2011.

44. Mount Pleasant i Bryn Tirion
?????????????

45. ?????????????

46. Ffordd Cae'r Frân i Hafod Uchaf
Cyflwr derbyniol iawn ac mae modd ei gerdded heb unrhyw drafferth.

47. Maen Llwyd Uchaf i Hafod Lydan
Hen ffordd trol a cheffyl. Fe'i gelwir yn Lôn Las yn lleol. Mae mewn cyflwr boddhaol ond ceir mannau corslyd yn y canol oherwydd ansawdd y tir.

48. Glanfa Llanberis i Bont y Bala
Mae'r llwybr mewn cyflwr eithaf derbyniol ond ceir llifogydd dros y tir ar adegau.

49. Pont Victoria i ffiniau'r Plwyf ger Pont y Bala
Gwnaed newidiadau eithriadol i'r llwybr yma oherwydd datblygiadau yn y cylch. Mae yna ffordd wyneb caled yn arwain i Bont y Bala bellach. Peth ansicrwydd ynglyn a pha ochr i'r afon y cyfeirir ato.

50. Cae Perthi i ffiniau'r Plwyf ger Llyn Idwal
Mae'r llwybr yn glir ac yn hawdd ei ddilyn er bod nifer o fân gerrig arno. Gwneir cryn ddefnydd o'r llwybr yma.

51. Pen y Pas i gopa'r Wyddfa – Llwybr y PYG
Llwybr poblogaidd iawn sydd bellach o dan reolaeth y Parc Cenedlaethol. Cyflwr boddhaol iawn. Gwnaed llawer o waith cynnal a chadw arno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fe driaf gael map gan Ken sy'n dangos y llwybrau …


No comments:

Post a Comment