21.8.13

John Preis

Erthygl gan Wil Sam o Llafar Gwlad, Rhif 11, Gwanwyn 1986














John Preis. Os od ydi hynod, a hynod ydi od, yna, mae hwn yn haeddu lle yn yr oriel. Yn un peth, roedd o wedi crwydro mwy efo'i draed na mae llawar ononon ni wedi'i grwydro efo'n ceir. Oedd, roedd gynno fo grap reit dda ar bob tre a phentra yng Nghymru, a toedd Lloegr a'r "hen Sgotland 'na", chadal onta, ddim yn hollol ddiarth iddo fo.
     Ma'n debyg mai'r crwydro diddiwadd 'ma a'r cysgu allan yma ac acw mewn ty gwair a sgubor a sied a thîn clawdd oedd y gwahania'th mwya rhwng John a'r gweddill ohonon ni. Am wn i hefyd. Erbyn meddwl, mae 'na amal i hen drempyn sydd wedi crwydro'r wlad a'r gwledydd yn union fel fonta. Na, nid yr elfan tramp a'r ysfa grwydro oedd yn gneud John Preis o Gapal Ucha Clynnog mor wahanol. Roedd 'na betha erill, – roedd o'n wahanol i edrach arno fo, roedd o'n gwisgo'n wahanol, roedd 'i iaith ne'i eirfa fo'n wahanol, a'i agwedd o tuag at bobol a phetha'n wahanol, siwr gin i. Mewn gair, ei ymarweddiad o oedd yn gneud John yn gofiadawy.
     Rwbath yn nharo i'n sydyn y funud 'ma, beidio mod i'n ddichwaeth sobor yn trafod y dyn yn gyhoeddus a'r dyn newydd farw? Anodd ydi deud, ond go brin byddai hwn wedi malio. Roedd o'i hun, o dro i dro, wedi clebar digon am bobol erill, a rhoi'i lathan ar bawb.
     Dyn bychan sionc yn mynd yn fân ac yn fuan a'i ben o'i flaen a'i lygad o'n deud ei fod o'n cael ei gorddi. Topcot soldiar amdano fo a chap ysgol gwyrdd, un â brêd melyn rownd y pig am 'i ben o. Hen ffaga am 'i draed o yn y tywydd mawr, a sgidia cryfion yn ystod gwres mawr yr ha'. Chlywis i rioed ei fod o'n or-hoff o molchi, ond eto roedd ei wynab o'n sgleinio fel petai o newydd ei sgwrio efo sebon coch. Blaen ei drwyn o'n goch fel radish bob amsar, ac un dant pig yn amlwg iawn yn nhop 'i geg o ar y chwith wrth i chi wynebu o.
     Y cap gwyrdd lliwgar 'na a brêd melyn oedd am 'i ben o y tro cynta rioed i mi weld o ym mis Awst '36, a rhwng hwnnw a'r trwyn bach coch mi ddylis i mai tylwyth teg o'n i'n weld. Isio matsian oedd ei golic o, matsian i danio'i biball, a fel'ma gofynnodd o – "tyd â hen sglyfath o hen fflachan, ma gin i hen flewin." Gofyn, medda fi, – comand ydi peth fel'na, a chomand sy'n rhoi amcan go lew sut un oedd John Preis.
     Chdi ddyweda fo wrth bawb. Byth chi. A chomandio ne hawlio bob amsar. Un diddiolch a digwylidd fuo fo rioed. Siwr gin i fod o'n credu mai dyletswydd a braint ei gyd-ddyn oedd 'i gadw a'i gynnal o, ac ella'i fod o'n iawn. Ma pawb isio byw.
     "Hen fflachan," medda fo, a "hen flewin". Matsian oedd fflachan, a blewin oedd baco. Ar wahân i newid enwa petha, roedd hwn yn mynnu rhoi hen o flaen pob peth. Nid hen yn golygu anwyldeb ond hen i fynegi atgasedd neu anfri ydi'r hen oedd gin John, a hen 'sglyfath' yn amlach na pheidio. 'Hen las' neu 'hen docyn baw' oedd plisman, a 'hen swerin eglws' oedd person neu weinidog mewn colar gron. 'Hen bedair olwyn bach' oedd car a 'Hen bedair olwyn fawr' oedd lyrri warthaig. 'Hen dderyn dur' oedd eroplên. Roedd gan Dafydd Elis Thomas a phobl Meirion enaid reit gytûn yn John cyn bellad ag y mae'r adar dur yn y cwestiwn, – roedd o'n eu melltithio nhw am fflîo'n isal. Dwi'n gofio fo'n mynd i stêm cynddeiriog ar gorn un o'r rhain ryw dro a ninna ar ganol sgwrsio. Gorwadd ar lawr roedd o ac yn traethu'n ddifyr ddigon am ryw hen sglyfath o hen warthaig blew hir oedd o wedi weld pan oedd o'n cerddad y 'Josephwt' yn rhen Sgotland 'na. Dyma 'na eroplên dros 'penna ni, yn gyrru fel melltith ac yn rhuo fel corwynt.
     Roedd hi'n pur isal ac ella'i bod hi'n edrach yn is nag oedd hi i John Preis am 'i fod o ar ei orwadd. P'run bynnag, dyma fo ar 'i draed fel pywltan a chau ddyrna. Rwbath fel hyn ddaeth o'i geg o wedi iddo fo ddwad dros y sioc – "Hen sglyfath hen dderyn dur, hen adar difa gythral, da i un dim ond i ddifa. Hen adar 'rhein' ydyn nhw, te? Y? Ia, raid ti'm perig. Hen adar y 'rhein' ydyn nhw i gyd. Wedi ca'l benthig gin rhen Fericia ma rhein. Gwirion at wirion. Tebyg at 'i debyg." (Chwerthin mawr fa'ma, wedyn mynd ymlaen i athronyddu ar berthynas Lloegr a Mericia) – "Ew, ydyn ma rhein wedi ca'l benthyg gin rhen Fericia, a rwan ma'r hen beth hwnnw isio nhw'n ôl. A does gin rhein ddim i roi. Taw bendith Dduw ti, does gynnon nhw na gloywon na chochion, ma nhw wedi difa'r job lot ar hen adar dur. Hw Hw Hw, Hw, Hw, Hw … (Chwerthin sbeitlyd iawn yn fan'ma a'r traed bach yn ysgwyd yn ôl ac ymlaen nes crafu twll yn y ddaear o dano).
     Yn Ysbyty Bron y Garth, Minffordd, yr oedd John Preis yn ystod y blynyddoedd diwetha ac yn cael gofalu amdano'n dynar iawn. Sôn rydan ni, wrth reswm, am y cyfnod roedd o yn ei bryim yn crwydro'r wlad fel ewig. Roedd gynno fo'i sdesions. Dae o ddim i bob man, a wnae o ddim siarad efo pawb, chwaith. Wir, siarada fo fawr efo neb pan fydda fo mewn tempar.
     "Sudachi John Preis?" medda gwraig fach glên o'r pentra cw.
     "Dos yn dy flaen, bendith Duw i ti," gafodd hi'n atab.
     Gofio fo'n galw acw am ei frecwast. Roedd o ar ei ora ac ar ei daclusa radag honno ac yn byta reit ddel bob peth roech chi o'i flaen o.
     Roedd mam wedi bod yn gweini yn ryw Blas Brynffynnon yn ymyl Llanelidan pan oedd hi'n hogan ifanc, ac o gofio am duadd grwydro John dyma hi'n gofyn iddo fo be oedd hanas ryw Ted oedd hi'n nabod yno.
     "Ydach chi'n nabod Ted?" medda mam.
     "Ydw," medda John, atab reit barchus am unwaith.
     "Sut mae o d'wch" medda mam wedyn.
     "Mae o wedi mynd i'r hen Fritish Columbia ers talwm," medda John a charlamu mlaen efo'i stori'i hun. Ffordd John Preis o ddeud bod y dyn wedi marw oedd yr hen 'Fritish Columbia'.
     Dyma beth arall reit od yn ei hanas o, wnae o un dim â brechdan fel eich brechdan chi a finna. Fedra fo ddim aros yr 'hen beth meddal hwnnw sy'n canol,' chadal onta. Crystyn oedd o isio bob amsar. Dwi'n cofio gorfod torri dau dalcan a phedair ochor y dorth iddo fo droeon er mwyn iddo fo gael y crystia; torth soeglyd ddigrystyn fydda ar ôl i ni. A gwaeth na hynny, mi fydda John wedi lluchio'r crystia dros ben clawdd cyn bod o olwg y ty 'cw.
     Na, doedd dim un dichon gw'bod sut i blesio fo, y petha rhyfedda a mwya di-fudd fydda'n geud ei dro fo. "Tyd a hen sglyfath o hen bastwn i mi," medda fo wrtha i rywdro. A dyma fi'n mynd ati i neud pastwn cerddad da iddo fo, pastwn hwylus efo dwrn ar top ac amgorn bach pres ar y blaen. Blesioddd o? Dim peryg. Mi taflodd o, a chymryd ryw hen bric crin da i un dim yn ei le fo.
     Welis dro arall roi bocs tun Blackcurrant and Glycerine iddo fo, un da i gadw'i faco, – yr 'hen flewin' chadal onta. Mi gwasgodd o'n seitan dan ei sawdl a mynnu ca'l hen beth cardbord sala welsoch chi yn ei le fo.
     Ia, un fel'na oedd o.Un ai roedd o'n wahanol neu mae'r gweddill ohonon ni i gyd run fath. D'wn i ddim, ond mi wn gymaint â hyn, mi fuo John Preis cyn iachad â chneuan am flynyddoedd meithion, a hynny ar draul esgeuluso'i hun ym mhob dull a modd.
     Oedd wir, roedd hwn yn wahanol.

Atgofion am John Preis gan Miriam Jones, Eglwysbach
Byddai John Preis yn arfer bod ym Mhwllheli bob amser roedd hi'n Ffair Pen Tymor (os cofiaf yn iawn ar Fai 11eg a Thachwedd 11eg). Yr adeg honno roeddwn yn berchennog ar Gaffi Gelert ym Mhwllheli, a byddai John Preis yn arfer dod yno yn y prynhawn am bot o de. Câi fara menyn a jam a chacen hefyd, ond byth yn talu amdano, wrth gwrs.
     Un tro roeddem wedi bod yn brysur ofnadwy ac wedi gorfod cau y Caffi am ychydig i gael clirio'r byrddau a chael tamaid o fwyd ein hunain. Roeddem wedi mynd i'r gegin i gael ein bwyd, ac wedi gadael 'rhen John i ddarfod ei de – roedd y lle'n wag arwahân iddo fo bellach.
     Toc clywsom swn llestr yn malu'n ufflon a dyna redeg i'r caffi a dyna lle'r oedd 'rhen John a dysglaid jam a llwy yn ei law – roedd wedi bod rownd y byrddau i gyd, yn bwyta popeth oedd ar ôl, a bag o dan ei gesail yn llawn o fara menyn a chacennau a'i geg yn jam o glust i glust.
     Wel, dyna ddweud y drefn wrtho a dweud na chai ddod ar gyfyl y Caffi wedyn. Ond dod fyddai 'rhen John, a minnau'n dal i roi te iddo, gan ei warnio rhag gwneud yr un peth eto. Chwarae teg iddo, mi gadwodd at ei air, a byddai'n gweiddi yn nrws y gegin wrth ymadael: "Diolch yn fawr iti, yr hen sglyfath," a ninnau'n chwethin ar ei ben.

Hanesion amdano gan Prys Roberts, Beddgelert
Roedd John Preis yn dwad ar ei dro ac wedi arfer galw yma pan oedd mam yn fyw – roedd o, a sawl trempyn arall, yn saff o biseriad o de a thamaid o frechdan a chacen ganddi.
    Bu farw mam yn 1949 ond roedd fy ngwraig a finnau'n byw yn y ty bellach, ac yn dal i groesawu John. Bûm i yn yr Armi, a toeddwn ddim wedi ei weld ers bron chwe mlynedd, ac wrth gwrs roedd cig, menyn, siwgwr ac ati dal ar rasion bryd hynny. Un bwrw Sul roedd y wraig wedi bod yn lwcus ac wedi cael tamaid o'r 'beef' gorau welsoch chi erioed, ac roeddem yn gwledda arno y diwrnod hwnnw.
     Dyma Tim, yr hogyn acw'n digwydd edrych drwy'r ffenest a gweiddi bod 'rhen John Preis yn dod i fyny'r steps.
     Es drwodd i'r gegin gefn, ac roedd John wedi agor y drws ac wedi dod i mewn i'r ty.
     Gwnaeth y wraig frachdannau bîff iddo, er bod cig yn brin, a gwneud llond mwg o de, a gadawsom ef i'w mwynhau wrth y tân yn y gegin, ac aethom ninnau nôl at ein cinio.
Clywsom John yn gadael, ac aeth Tim i'r ffenest i'w wylio'n mynd. Toc, dyma'r hogyn yn gweiddi bod John Pries wedi taflu'r brachdannau dros y wal i'r cae.
     Gwylltiais yn gacwn a rhedais ar ei ôl er i'r wraig bledio arnaf i beidio. Daliais 'rhen John a rhoi 'sgytwad iddo gerfydd ei wddw a'i ddiawlio, ac yna'i hel i lawr y ffordd am Beddgelert.
     Mewn rhyw fis clywodd y wraig rhyw stori fod John wedi marw, a chefais eitha tafod ganddi hi, ac a dweud y gwir roeddwn innau'n reit bryderus.
     Ond ymhen ychydig wedyn, pwy welais yn dod i lawr y ffordd acw ond yr hen John Preis, yr hen sglyfath – a choeliwvch fi, roeddwn yn hynod o falch o'i weld.

Mae stori arall amdano'n galw yn Nhyddyn Talernig – tyddyn bach rhwng Llanfrothen a Nantmor lle cartrefai Huw Roberts a'i deulu yn ystod y pumdegau. Roedd Huw yn nabod John yn dda – roedd y ddau wedi'u geni a'u magu yng Nghlynnog.
     Roedd yn Awst poeth a Huw yn brysur gyda'r gwair pan welodd 'rhen John yn cyrraedd ac yn mynd yn syth am y berllan. Roedd perllan enwog yn Nhyddyn Talernig yn llawn coed afalau, gerllyg, eirin Victoria ac eirin bach. Roeddent yn flasus dros ben a phobl o bell ac agos yn tyrru yno i'w prynu.
     Toc, wedi rhoi cyfle i John hel ei fol, aeth Huw heibio iddo i ofyn iddo afael mewn cribin i'w helpu gyda'r gwair. Ymhen rhyw awr, daeth Mrs Roberts a the i'r cae, a dyna John yn syth am y tun llaeth enwyn ac yfed llond ei fol ohono. Roedd John wedi anghofio am y llwyth o eirin roedd o eisoes wedi'u llyncu, ac yn fuan wedyn gwelodd Huw 'rhen John yn mynd am y ty gwair gan weifddi arno ei fod yn swp sâl. Aeth Huw a phaned iddo yn ddiweddarach gan ganfod John yn rowlio yn y gwair efo poen mawr yn ei fol.
     "Diwch annwyl," meddai Huw, "rwyt ti'n sâl go iawn."
     "Sâl fasat tithau tasat ti wedi bwyta'r hen sglyfath eirin bach ac yfad yr hen sglyfath llaeth enwyn 'na wedyn."

No comments:

Post a Comment