21.8.13

Ffynnon Aelgerth

Erthygl o Lygad y Ffynnon, Nadolig 2008

Ebost gan Ken Jones, Llanberis ken.jones1@homecall.co.uk

Naddwyd y ffynnon i mewn i'r graig ar lethrau Cwm Bywynnog (sic) ac yng nghysgod Cefn Drum sydd yn arwain o gopa Foel Goch nepell hanner milltir o Lyn Cwm Daethhwch. Llecha'r ffynnon ger y prif lwybr sydd yn arwain o Lanberis trwy Fwlch Masgwrn, i Lyn Cwellyn ger Rhyd Ddu. Nid oes unrhyw hanes na thraddodiad i'r ffynnon ac mae'n eithaf amlwg ei bod yn sicrhau cyflenwad o ddwr i'r tri bwthyn cyfagos, Tyddyn yr Aelgerth neu'r Rali fel y'i gelwir yn lleol. Adfeilion bellach yw Rali Ganol a Rali Uchaf ond, trwy ryfeddol wyrth, fe saif y brif Rali hyd heddiw er mai ty haf ydyw bellach. Symudodd rhan fwyaf y trigolion o'r cwm yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan feddiannwyd y dyffryn gan y fyddin ar gyfer ymarferion o bob math. Dyma'r tro olaf i'r ffynnon gael ei defnyddio ar gyfer y bwthyn a pheipen blastig sy'n gwasanaethu yn y Rali heddiw.

Gosodwyd targedau saethu ychydig lathenni islaw'r ffynnon ac awgrymodd y Prifardd R. Bryn Williams, a oedd yn weinidog ar Gapel Hebron y cwm, yn ei gerdd Cwm Bywynnog, fod rhai o'r tyddynwyr wedi mudo'n ffol o'r cwm yn y cyfnod hwn. Mynegodd hefyd, yn ei delyneg i Fwlch Masgwrn, ei siom fod y bythynnod yn wag. Ymddangosodd y delyneg yn Y Cymro, 25 Medi 1943.

Bwlch Masgwrn

Gwag dy fythynnod,
di-fref dy braidd;
Dryllio'r tawelwch
Ni fyn, Ni faidd.

Ni chan dy adar,
Dim ond croesi'n chwim;
A churiad adenydd
Sy'n ddychryn im.

Daw sibrwd y nentydd
O'r creigiau cyd;
Wyt lawn isleisiau
A hiraeth mud.

O na chawn chwerthin
Neu wylo'n drwm;
Ond ofnaf ddeffro
Dy feirwon llwm.

R. Bryn Williams

Cyfeiriad sydd yma am wacter y cwm oherwydd yr ymarfer saethu a oedd yn digwydd yno yn ddyddiol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.


No comments:

Post a Comment