20.8.13

Paentio mewn dyfrlliw

J P Williams o'r Groeslon oedd ein hathro paentio mewn dyfrlliw … bu'n gweithio fel arlunydd masnachol gydol ei yrfa gan ddechrau yn Menai View, Dinas ym 1946, symud wedyn i sdiwdio uwchben siop George Thomas yn Stryd y Palas ond yn Stiwdio'r Majestic yn Twthill Lane dwi'n ei gofio – roedd yn cynhyrchu amrywiaeth o bosteri a deunydd hysbysebu ar gyfer sinemau Paramount Picture Theatres, theatrau'r gogledd, yn ogystal a darlunio llyfrau ac addurno ffenestri siopau. Dechreuodd beintio mewn dyfrlliw drwy ddilyn cwrs drwy'r post hefo'r Press Art School yn Llundain o dan arweiniad Percy Bradshaw. Dylanwad mawr arno oedd gwaith Ernest W Hazlehurst, RIBA (1866-1949), artist tirlun dyfrlliw enwog yn ei gyfnod, a ddarluniodd lawer o gyfrolau am drefi, dinasoedd a siroedd Lloegr ynghyd a phosteri ar gyfer y prif gwmniau rheilffordd. Roedd J P yntau yn fedrus iawn yn y grefft o drin dyfrlliw ac mae nifer o'i luniau gwreiddiol ar waliau cartrefi yn yr ardal. 

Bu'n cynnal dosbarth arlunio dyfrlliw yn Y Groeslon ers 80au'r ganrif ddiwethaf, gan ddechrau yn y Church Rooms, yna symud i'r Ysgol Gynradd, cyn symud i'r Neuadd. Fe'i cynhelir pob nos Fercher, am 10 wythnos cyn ac ar ôl y Nadolig.


Dyma nodiadau a sgribliais wrth iddo ddangos i ni fel dosbarth sut i baentio tirlun mewn dyfrlliw … roedd yn argymell i ni ddefnyddio paent dyfrlliw Winsor and Newton (eu cyfres 'Artists' mewn tiwbiau) ar bapur Arches (o felin Canson yn Ffrainc) wedi ei 'stretchio' ymlaen llaw ar fwrdd pren. Roeddent ar gael y dyddiau hynny o siop Gray Thomas yng Nghaernarfon, ond erbyn heddiw (2013), ychydig iawn o siopau yn y gogledd sy'n arbenigo mewn offer peintio – gweler cyfeiriadau rhai cwmniau sy'n gwerthu ar y we isod.  


Yr awyr – Ultramarine a sbot o Ddu a Light Red yn gysgod i'r cymylau; Light Red a Yellow Ochre ar y gorwel. Codi'r pant hefo brwsh glan i gael cwmwl.

Mynydd – Yellow Ochre a Hooker's Green (gwan), a Light Red ac Ultramarine fel cysgod (gwan); top y mynydd yn Ultramarine.
Coed – Cysgodion mewn Burnt Umber, reit gryf; a hefo'r Ultramarine i dywyllu.
Afon – Ultramarine ysgafn.
Coed (chwith) – Yellow Ochre a Cadmium Yellow dros y darnau tywyll.
Ochor dde – Ultramarine a Du (neu Payne's Gray), reit dywyll.
Creigiau mewn Hooker's a Light Red i fyny atynt; Coch yn rhedeg i mewn i'r Du a Yellow Ochre budur; ychydig o Gadmium iddo yma a thraw.
Coniffers – Ultramarine a Gwyrdd (chydig) – silhouettes yn unig.
Dwr – Ychwanegu Burnt Umber hefo brwsh mawr a Hooker's fel cysgod o dan y goeden ar y chwith ac Ultramarine cryfach yma ac acw.
Ynys – Yellow Ochre yn wlyb ac Ultramarine gwlyb tu ôl i'r coed.
Mynydd – Mwy o las.
Cerrig yn yr afon – Llwyd; Burnt Umber ac Ultramarine.
Ar y chwith – Reit dywyll.
O dan y coed – Cadmium a Hooker's.
Ynys – Hooker's a Yellow Ochre.
Coed (boncyffion) – Alizarin a Hooker's.
Wal – Llwyd.
Coed – Cadmium i fywiogi'r coed ar y chwith; Burnt Umber ac Ultramarine i dywyllu'r canghennau.
Gwaelod ar y chwith – Llwyd ysgafn.
Coniffers – Chydig o Light Red ar hyd y gwaelodion.
Coed ar y chwith – Wash o Burnt Umber drostynt.



Artist arall sy'n arbenigo mewn dyfrlliw yw Rob Piercy o Borthmadog. Bu'n athro celf yn Ysgol Eifionydd cyn ymddeol yn gynnar yn 1989 a mentro fel arlunydd proffesiynol gan arbenigo mewn darlunio mynyddoedd a thirluniau Eryri. Adlewyrchir ei ddiddordeb mewn dringo a mynydda yn ei luniau ac yn y gyfrol o'i eiddo, Mynyddoedd Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 2008). Cynhelir dwy brif arddangosfa ganddo yn flynyddol, un yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r llall cyn y Nadolig yn ei Oriel ym Mhorthmadog.

Rhagor o fanylion ar ei wefan … www.robpiercy.com

Dyma ddywed un am ei gyfrol Eryri … Rob Piercy's paintings and notes are a most wonderful inspiration for anyone wishing to paint mountains and also a delight to those who love mountains, especially Snowdonia. His notes allow readers to imagine themselves to be experiencing the weather on the mountainside with him and perhaps to pluck up enough courage in the future to don warm clothing and paint in these cold conditions as he does and perhaps, with his paintings to guide them, to achieve good results. This is one of the best books I've ever bought.

Sylw gan un arall, Paul Scraton … if you visit Rob’s website you can see why he is regarded as one of the United Kingdom’s top mountain painters, and as a keen mountaineer himself, it is obvious that the landscape has inspired his work in a way that allowed the finished piece to inspire me and all those who experience it. Rob has recently published a book on the town of Portmerion, some images from which you can see illustrating this post, and until the end of September it is possible to see the originals from the book in an exhibition at his gallery.

Mae'n rhestru'r 5 lliw canlynol fel ei ffefrynnau … Cadmium Yellow, Cadmium Red, French Ultramarine, Monastial Blue a Burnt Umber.

Basic palette

6 primaries, 3 or 4 earths, a black (Ivory being the best on most counts) and a green (Viridian, best in tubes, tends to dry in pans). White is hardly necessary, especially if Bockingford or a hot-pressed sheet is used. Scraping can also be used, but check for staining. Mix browns and greys as a good practice.
3 primaries – Yellow (Winsor – pale yellow), Magenta (Permanent Magenta or Permanent Rose) and Cyan (Winsor – greenish blue).

Earth colours – have to be used if warm greys and subtle tones are required

Genuine earths – 3 pairs:
Ochre and its 'burnt' derivative – Light Red,
Umber – Raw and Burnt,
Sienna – Raw (transparent Yellow Ochre) and Burnt.
Adjusted, 4th: Terre Vert – interesting.
All other earth browns are derived from above, including Venetian Red, the modern mixed Sepia or the non-permanent Vandyck Brown.
Adding blues to earth colours produces a very satisfactory range of warm greys.
Neutral – if a warm blue is used with the only cool brown – Burnt Umber.
Clear – use 2 colours only.

John Blockley

Artist dyfrlliw 'gwahanol' – gweler am fanylion 

Basic palette:

Raw Sienna – earth colour, more transparent than Yellow Ochre
Aureolion – sharp, bright yellow
Cadmium Red – bright red
Light Red
Brown Madder Alizarin – low-toned red, cool relative to Cadmium Red
Burnt Umber – mixed with any blue to make greys
Pthalo Blue
Cobalt Blue
Lamp Black – diluted to make greys (with a touch of red or blue); makes grey-green mixed with Raw Sienna.

Wilfred Ball – allan o 'Weather in Watercolour'

Ultramarine Blue
Cobalt Blue
Alizarin Crimson
Cadmium Red
Winsor Green
Yellow Ochre – equates with sunshine
New Gamboge
Raw Umber
Burnt Umber – or Brown Madder for extra warmth
Burnt Sienna

Basic grey – Cobalt or Ultramarine mixed with Burnt Sienna (or Brown Madder for warmer grey).



Zoltan Szabo – essentials; good permanence with simple chemical composition
Cadmium Yellow Pale
Cadmium Orange
Vermilion
Cadmium Scarlet
Alizarin Crimson
Brown Madder
Cerulean Blue
Manganese Blue
French Ultramarine
Cobalt Blue
Winsor or Thalo Blue
Antwerp Blue
Hooker's Green Dark
Yellow Ochre
Burnt Sienna
Sepia Dark
Davy's Gray
Charcoal Gray
Payne's Gray

Gwefannau eraill difyr a defnyddiol:

www.watercolourfanatic.blogspot.co.uk


gan Peter Ward sy'n son am focsus paent gan Craig Young – wedi eu gwneud hefo llaw allan o bres, ond drud iawn …


www.watercolorpaintboxcompany.com


Llawer o rai plastig, rhai rhad a chydig yn ddrytach ar gael gan


www.artsupplies.co.uk


Dyma flogs a gwefannau eraill o ddiddordeb:


www.parkablogs.com


www.artezan.blogspot.co.uk


www.carverstudio.com


www.thewatercolourartist.com


www.heatoncooper.com


www.artifolk.co.uk


www.classicpaintboxes.com


www.iba-copalettes.com


www.wetcanvas.com/forums/


www.littlebrassbox.com/product.html


No comments:

Post a Comment