22.8.13

Teulu Heddlys

Cerdd gan Owain Ddu
sef y Parchedig O. J. Davies, Llanfyllin

Gu Forfudd ddaeth yn gyntaf
I siriol wenu'n llon;
A Gwyneth ddaeth i'w chanlyn
A chwerthin dan ei bron.
Ac yna daeth Mair Iola,
A miri fel y dail,
I wenu yn y gwanwyn
Dan wenau serch yr haul.

Daeth Glenus fach i ddawnsio
O flaen y lleill yn llon,
Myfanwy yw ail-enw
R'angyles fechan hon.
Yn bumed wele Alys
A'i llygaid gloew glân,
Ac Ann Bronwen i'w chanlyn
Fel darn o nefol gân.

Wel, boed i chwi rai tirion
Ddedwyddyd lond y byd,
I chwyddo cylch daioni
Tra fyddoch yma 'nghyd,
A phan ddaw erchwyn
I wely maser draw,
Boed i chwi bob llawenydd
Byd a ddaw.


30ain Ionawr, 1945

No comments:

Post a Comment