21.8.13

Damweiniau awyren yn Eryri

Cwm Edno – Aer Lingus Dakota EF-AFI 'Saint Kevin'
Yn hedfan o Northolt i Ddulyn, Ionawr 10fed 1952 hefo criw o 3 ac 20 o deithwyr; ar uchder o 4,500 troedfedd ac wedi croesi'r arfordir ger 'beacon' Nefyn. 'Turbulence' tros y mynyddoedd.
   W. Williams o Hafod Rhisgl, Nant Gwynant yn clywed swn a gweld golau yn yr awyr oddeutu 7.15 yr hwyr ac yn mynd i fyny at Fwlch y Rhediad – gweld twll yn y gors o dan y Bwlch – darnau a awyren ar dân a chyrff.
   8.20 – Air Traffic Control – awyren yn hedfan i'r dwyrain, methu Gallt y Wenallt a syrthio'n serth i'r gors. Y lle'n wlyb iawn a'r twll wedi llenwi hefo dwr 3 awr wedi'r gyflafan.
   Cyrff, offerynnau miwsig a 'sheet music' yn fflio o gwmpas – 23 wedi marw.
   Daethpwyd a'r cyrff i lawr yn ystod y nos – 9 (a darnau) i'r ysbyty yng Nghaernafon.
   Pwmpiwyd dwr o'r twll yn y gors a darganfuwyd mwy o gyrff – hyn yn cario 'mlaen am dridiau – ansicr faint o gyrff a gafwyd – "approximately 10".
   Ffensiwyd tua acer o'r tir a dau 'badre' o'r Iwerddon yno i'w gysegru – plac pren i'r peilot, y criw a'r teithwyr – dwynwyd hwnnw.
   Lle gwlyb iawn – fe ddraeinwyd y lle gan JCB y fyddin.
   Deunaw mis wedyn, yn haf 1953, aelod o dîm y Fali yn cerdded lawr llwybr y Watkin a darganfod darn o 'undercarriage' awyren mewn afon – nodwyd y 'serial numbers' a chafwyd eu bod yn perthyn i'r Dakota.
   Mae'n rhaid ei bod wedi clipio'r Aran, colli'r 'undercarriage' yna colli uchder a syrthio yr ochr draw i Fwlch yr Hediad.
   Aer Lingus yn gyrru £50 i dîm y Fali i brynu 'Thomas stretcher' – plac pres i ddynodi hynny arno.

Clogwyn Coch, Yr Wyddfa – Anson, C19 No. VM407
Yn hedfan o RAF Aldergrove, Fleet 23MU, Awst 11, 1952.
   George Sellars (o Lanberis) yn gyrru'r tren i lawr o'r copa ar ddiwrnod niwlog a gwlyb a gweld awyren ar dân ar drofa Clogwyn Coch – 2 gorff ger yr awyren wedi eu llosgi'n ddrwg.
   Y giard, John Robert Roberts, yn mynd lawr i steshion Clogwyn i ffonio Llanberis – y tren yn dychwelyd yn ôl i'r copa. Tren arall yn dod i fyny o Lanberis hefo'r tîm achub.
   Croen yr awyren wedi toddi yng ngwres y tân.
   Un o'r cyrff yn 'civilian' yn cael reid adre i Landw, Morgannwg.
   120 o bobol yn y gwesty ar y copa dros nos.
   Cof gennyf fod Raymond Foulkes, un o weithwyr y rheilffordd, wedi casglu dipyn o'r aluminiwm o safle'r gyflafan a'i doddi i greu croes?

Mynydd Mawr – Vampire MK V
Hydref 12fed, 1955 – Pobl lleol wedi clywed swn a golau – tywydd yn ddrwg.
   10.00 yr hwyr – gweddillion yr awyren ar hyd copa'r mynydd – peilot 19 oed yn ddarnau.

Bera Mawr – Auster VF554, 663 Army Squadron
Hydref 21ain, 1955 –  tua 4 o'r gloch y prynhawn tu cefn i'r Llwytmor – y peilot yn fyw.

Capel Celyn – Vampire
Awst, 1956 – ar fferm yng Nghapel Celyn – y peilot wedi ei ladd.

Moel Wnion – Canberra BZ WK129, Pershore RRE, 
Rhagfyr 10fed, 1957 – adroddiad fod na ddigwyddiad rhyfedd ar Foel Wnion.
   Darnau o'r awyren ar gopa Foel Grach, ar wyneb clogwyn 50 troedfedd i'r dwyrain o dan y grib.
   Cyrff a phethau cyfrinachol ar yr awyren.
   Yn hedfan o'r Fali i Sain Tathan / H Hill.


No comments:

Post a Comment